Neidio i'r prif gynnwy

Torfeydd ar y strydoedd i roi croeso brenhinol

Aeth trigolion o bob oed allan i strydoedd Tredegar Newydd i roi croeso arbennig i’w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw wythnos diwethaf.

Roedd yr haul yn disgleirio i’r pâr wrth iddynt ymweld â dau leoliad yn y pentref fel rhan o’u hymweliad haf blynyddol â Chymru.

I ddechrau, galwodd Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn Amgueddfa Tŷ Weindio i weld y peiriant weindio o oes Fictoria a ddefnyddiwyd i bweru’r lifftiau oedd yn mynd â’r gweithwyr i’r pwll glo islaw’r ddaear, sydd bellach wedi cael ei adnewyddu. Fe wnaethant hefyd gyfarfod â grŵp crefftau lleol i weld eu gwaith.

Yna, fe wnaethant dreulio amser yn sgwrsio gyda’r dorf wrth iddynt gerdded i Ysgol Gynradd Rhosyn Gwyn gerllaw i gyfarfod â’r plant a’r staff sydd yn gysylltiedig â phrosiectau llythrennedd a bwyta’n iach. Yn ystod yr ymweliad, cyflwynodd Eu Huchelderau Brenhinol y ‘Wobr Ansawdd Genedlaethol’ o Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru i’r ysgol.

Mae’r Wobr Ansawdd Genedlaethol (NQA) yn cydnabod rhagoriaeth mewn ymarfer ysgol gyfan ar draws nifer o themâu yn ymwneud ag iechyd, fel bwyd a ffitrwydd, iechyd a lles meddwl ac emosiynol, datblygiad personol a chydberthynas yn ogystal â materion amgylcheddol.

 Rhoddir yr NQA i ysgolion sydd wedi cyflawni’r safonau uchaf ym mhob un o saith maes testun ysgolion iach. Mae’r dangosyddion hyn yn chwilio am ymagwedd ysgol gyfan tuag at bob un o’r testunau iechyd uchod ac mae cyfranogiad y disgyblion yn arwain, dylunio a chyflawni newid yn ganolog i’r ymagwedd.  Ar hyn o bryd, mae 187 o ysgolion ar draws Cymru wedi cyflawni’r NQA.

Mae’r ysgol hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect canu ac ysgrifennu caneuon gydag Elusen Aloud. Mae’r prosiect, a elwir yn ‘Aloud in the Classroom,’ yn brosiect peilot a’r gobaith yw ei gyflwyno i ysgolion eraill ar hyd a lled Cymru.

Mae’r daith yn cyd-fynd â hanner can mlwyddiant arwisgo Ei Uchelder Brenhinol yn Dywysog Cymru a bydd yn gyfle i ddathlu’r ystod o elusennau, sefydliadau a chymunedau Cymreig y mae’r Tywysog wedi bod yn gysylltiedig â nhw dros y pum degawd diwethaf.