Neidio i'r prif gynnwy

Tîm astudio brechlyn yn cipio gwobr arloesedd

Mae cydweithwyr sy'n gweithio ar astudiaeth o frechlyn Covid-19 Rhydychen yng Nghymru wedi derbyn gwobr arloesedd MediWales i gydnabod eu hymdrechion.

Derbyniodd yr astudiaeth, sef cydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, y Ganolfan Treialon Ymchwil ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y wobr am Bartneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant.    

Cymeradwywyd y rhai a fu’n rhan o hyn am y gwahaniaeth gwirioneddol y mae'r astudiaeth wedi'i wneud wrth ddod o hyd i ateb parhaol i'r pandemig. Cawsant eu canmol hefyd am eu hymdrechion i sefydlu’r astudiaeth yn gynt nag erioed, gan gydweithio â phartneriaid cenedlaethol a gweithio ar draws ffiniau sefydliadol.

Meddai Dr Chris Williams, Prif Ymchwilydd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinydd treial y brechlyn yng Nghymru:“Roedd yn anrhydedd arwain safle Cymru ar gyfer treial mor bwysig ac arwyddocaol, ac mae hefyd yn braf i’r tîm cyfan gael cydnabyddiaeth am ein hymdrechion wrth dderbyn y wobr hon. Estynnaf fy niolch a'm llongyfarchiadau i bawb sy'n gysylltiedig â hyn.”

Cynhelir Gwobrau Arloesedd MediWales yn flynyddol i ddathlu cyflawniadau eithriadol yng nghymunedau gwyddor bywyd a thechnoleg iechyd Cymru. Eleni, cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn gyfan gwbl ar-lein am y tro cyntaf, gyda gwesteion yn ymuno o bob rhan o Gymru i gynrychioli’r GIG, diwydiant, byd academaidd, llywodraeth a rhagor.

Gallwch wylio fideo o enillwyr y tîm yma:

https://www.youtube.com/watch?v=lG6ybYFUr3A&list=PLFz91WHnjCKRGwp0_fInEcfqJZuAv7__t&index=8