Neidio i'r prif gynnwy

Tarfu posibl ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd: 26 Awst 2021

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, darparwyr gwasanaethau digidol GIG Cymru, gall fod tarfu posib ar ddata a adroddir ar ein dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym rhwng dydd Iau 26 Awst a dydd Mawrth 31 Awst 2021. Ni fyddwn yn diweddaru ein dangosfwrdd ddydd Llun 30 Awst oherwydd Gŵyl y Banc.

Meddai Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Achosion Lluosog Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Rydym yn gobeithio y bydd unrhyw darfu yn fach iawn, ond mae risg na fyddwn yn gallu adrodd ar ffigurau fel arfer yn ystod y cyfnod hwn.

“Gall fod ôl-groniad o ganlyniadau ac ystadegau eraill dros y dyddiau nesaf, a bydd cyfnod o gysoni a dilysu data a all effeithio ar ein ffigurau adrodd dyddiol am sawl diwrnod.

“Yn ystod yr amser hwn, gall nifer yr achosion positif, nifer y marwolaethau a adroddwn fod yn is na'r nifer gwirioneddol, a gall y niferoedd a adroddir yn y diwrnodau ar ôl 31 Awst fod yn uwch nag arfer wrth i'r data gael eu hychwanegu'n ôl-weithredol. 

“Nid yw hyn wedi effeithio ar unigolion sy'n cael eu canlyniadau, a bydd tîm Profi, Olrhain, Diogelu'r awdurdodau lleol yn cysylltu ag unrhyw un sy'n profi'n bositif yn y ffordd arferol.

“Fel arfer, dylid ystyried ffigurau dyddiol yng ngoleuni'r tueddiadau sylfaenol, a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli amrywiadau o ddydd i ddydd.

“Mae ein dangosfwrdd yn ddull adrodd cyflym wedi'i fwriadu i roi'r darlun presennol o Covid yng Nghymru.  Cynhyrchir ystadegau swyddogol sy'n ymwneud â phandemig y Coronafeirws gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.”