Neidio i'r prif gynnwy

Tai gwael yn costio £95m y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd – adroddiad newydd

Mae tai o ansawdd gwael yn costio mwy na £95m y flwyddyn mewn costau triniaeth i'r GIG yng Nghymru – ond gallai camau i leihau tai gwael arwain at enillion ar fuddsoddiad o fewn chwe blynedd, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad yn edrych ar effaith ansawdd tai, cartrefi anaddas, a digartrefedd ar iechyd a llesiant yng Nghymru, ac mae'n nodi meysydd blaenoriaeth gwerth am arian ar gyfer gweithredu.

Mae 18 y cant o gartrefi yng Nghymru yn peri risg annerbyniol i iechyd, ac mae tai gwael yn costio dros £1bn y flwyddyn i gymdeithas Cymru.  Ceir tystiolaeth gref bod tai gwael yn gysylltiedig ag iechyd corfforol a meddyliol gwael.

Mae'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi heddiw (20 Mehefin 2019) mewn partneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, a'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE).

Ymhlith ei argymhellion, mae'r adroddiad yn annog camau gweithredu i fynd i'r afael ag achosion afiechyd sy'n gysylltiedig â thai o ansawdd gwael, fel oerfel a lleithder, a pheryglon syrthio.  Mae meysydd blaenoriaeth yn cynnwys gwella gwresogi, effeithlonrwydd thermol ac awyru cartrefi, gyda chamau gweithredu fel inswleiddio tai hŷn.

Dywed yr adroddiad y gallai uwchraddio cartrefi arwain at 39 y cant yn llai o dderbyniadau i'r ysbyty ar gyfer cyflyrau cylchrediad a'r ysgyfaint, a gallai pob £1 a werir ar wella cynhesrwydd mewn aelwydydd sy'n agored i niwed arwain at £4 o elw ar fuddsoddiad.   Mae manteision i wella awyru hefyd gan gynnwys gwella asthma mewn plant, ac mae'n debygol o leihau absenoldeb mewn ysgolion.

Mae addasu cartrefi a darparu gwasanaethau i leihau cwympiadau i bobl hŷn ac anabl yn werth am arian a gallai hyn greu £7.50 o arbedion i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol am bob £1 a werir.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod buddsoddi mewn camau gweithredu i atal digartrefedd hefyd yn arwain at arbedion sylweddol, yn ogystal â lleihau'r gost ddynol.  Gallai camau o'r fath arwain at arbedion o tua £9,266 y person o gymharu â gadael i ddigartrefedd barhau am 12 mis.  Gallai pob £1 a fuddsoddir mewn codi pobl allan o ddigartrefedd arwain at elw o £2.80 ar fuddsoddiad, yn ôl yr adroddiad.
Meddai Louise Woodfine, Prif Arbenigwr Iechyd Cyhoeddus ac Arweinydd Tai ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Nid yw'r achos dros fuddsoddi mewn tai i wella iechyd a llesiant erioed wedi bod yn gryfach.  Gan Gymru y mae'r stoc tai hynaf yn y DU, a'r costau triniaeth uchaf yn gyfatebol sy'n gysylltiedig â thai gwael.  
“Mae cost ddynol wirioneddol o ran tai gwael hefyd, gyda phobl yn byw yn y cartrefi lleiaf ynni-effeithiol yn bumed mwy tebygol o farw yn ystod y gaeaf o gymharu â deiliaid tai yn y tai cynhesaf.
“Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod cyfleoedd gwirioneddol i ni yng Nghymru wneud gwelliannau sylweddol o ran iechyd a llesiant drwy gymryd camau blaenoriaeth yn y sector tai.

“Mae ein hadroddiad yn canfod bod camau gweithredu nawr i wella ansawdd tai, sicrhau tai addas, a mynd i'r afael â digartref yn gost-effeithiol iawn.  Mae angen i hyn gael ei ategu gan gamau gweithredu i leihau anghydraddoldeb tai, ac alinio tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach.”

Meddai Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae gennym uchelgais hirdymor fel sector i adeiladu Cymru lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb, ac rydym wedi dadlau'n hir o blaid manteision buddsoddi mewn tai ar gyfer iechyd a llesiant pobl Cymru.

“Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir yr effaith uniongyrchol y mae tai gwael yn ei chael ar y GIG, a byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod buddsoddi mewn tai yn flaenoriaeth.”

Mae'r adroddiad yn deillio o adolygiad o lenyddiaeth sy'n canolbwyntio ar dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd ymyriadau wedi'u cynllunio i wella cyflwr tai, mynd i'r afael â digartrefedd, a manteision addasiadau.

Adroddiadau

ICC Gwneud Gwahaniaeth Tai ac Iechyd Yr Achos dros Fuddsoddi Crynodeb

ICC Gwneud Gwahaniaeth Tai ac Iechyd Yr Achos dros Fuddsoddi

ICC Gwneud Gwahaniaeth Tai ac Iechyd Yr Achos dros Fuddsoddi Infograffeg