Cyhoeddwyd: 3 Rhagfyr 2024
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol i helpu rhieni a gofalwyr sy’n poeni y gallai eu plentyn fod yn anweddu.
Mae'r canllaw yn cynnwys llawer o awgrymiadau ar gyfer sut i nodi arwyddion posibl fepio, a sut i fynd ati i gael sgwrs amdano.
Mae bron un o bob chwech o fyfyrwyr blwyddyn 11 yng Nghymru (15.9 y cant) yn defnyddio fêps yn rheolaidd yn ôl data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.
Mae dros 45 y cant o fyfyrwyr ym mlwyddyn 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar fêp.
Mae'r canllaw yn cynghori rhieni y dylent geisio cael sgwrs agored gyda'u plentyn, a cheisio aros yn gadarnhaol.
Mae llawer o arwyddion fepio hefyd yn arwyddion o dwf arferol yn ystod y glasoed, fel hwyliau oriog, felly ni ddylai rhieni neidio i gasgliadau.
Mae'r rhan fwyaf o fêps yn cynnwys nicotin, sy'n sylwedd caethiwus. Gall defnydd rheolaidd arwain at ddibyniaeth ar nicotin, gan achosi ysfeydd a symptomau diddyfnu os byddwch yn ceisio rhoi'r gorau iddi.
Gall caethiwed i nicotin effeithio ar ganolbwyntio, dysgu ac astudio. Gall diddyfnu effeithio ar gwsg, achosi cur pen, ac effeithio ar iechyd meddwl a hwyliau.
Meddai Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn gwybod o adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod fepio ar gynnydd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, fel y mae ledled y DU.
“Mae hyn yn golygu bod rhieni a gofalwyr yn mynd i bryderu am hyn, a byddant yn chwilio am arweiniad ar sut y dylent fynd i'r afael â'r pwnc gyda'u plentyn. Mae'r canllaw yno i'w helpu.
“Y peth allweddol yw cael sgyrsiau agored gyda'ch anwyliaid. Peidiwch â chynhyrfu - a'r hyn sy'n holl bwysig yw ceisio aros yn gadarnhaol.
“Dewis amser da i gael sgwrs briodol. Er enghraifft, os ydych wedi dod o hyd i fêps yn eu hystafell, arhoswch nes eich bod wedi tawelu cyn siarad â nhw.
“Os ydych yn pryderu am eich plentyn yn fepio, nid oes rhaid i chi ymdopi â'r sefyllfa ar eich pen eich hun. Gallwch siaradwch â'ch meddyg teulu neu ffoniwch Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219 i gael cyngor a chymorth.”
Yn flaenorol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio adnodd gwybodaeth a chanllawiau ar fepio ar gyfer dysgwyr oed uwchradd yng Nghymru. Mae'r ddogfen yn darparu data a gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion gan gynnwys sut y gallant ymateb i fepio a mynd i'r afael ag ef yn eu lleoliad drwy bolisi, arferion, a chynnwys y cwricwlwm.
Bydd yr adnodd newydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn www.icc.gig.cymru/fepio.
.