Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at lwyddiannau'r tîm, gan weithio'n agos gyda chydweithwyr ledled Cymru, ac mae'n dangos yr amrywiaeth eang o waith a gynhaliwyd o fewn yr wyth rhaglen sgrinio cyn geni dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae sgrinio yn ystod beichiogrwydd yn cael ei gynnig am gyflyrau a allai effeithio ar y fam neu'r babi.
Mae profion gwaed yn chwilio am; heintiau (HIV, hepatitis B, siffilis); anhwylderau'r gwaed (clefyd y crymangelloedd a thalasaemia); a grŵp gwaed a gwrthgyrff. Cynigir sganiau uwchsain beichiogrwydd cynnar ac anomaleddau'r ffetws, yn ogystal â sgrinio am syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau.
Mae'r datblygiadau allweddol yn y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:
• adolygiad o Bolisi, Safonau a Phrotocolau SCG a datblygiad dilynol pecyn addysg i hysbysu byrddau iechyd am y newidiadau;
• adolygiad o Lawlyfr Sgrinio ar gyfer Bydwragedd SCG a'r Llawlyfr Uwchsain ar gyfer Sonograffwyr a chyhoeddi dogfen crynodeb o newidiadau;
• gweithredu'r cynnig sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau i gynnwys beichiogrwydd gefeilliaid, a a chynnig NIPT fel prawf wrth gefn i fenywod â beichiogrwydd unigol a nodwyd â chanlyniad tebygolrwydd uwch.
Mae gwaith rheolaidd SCG wedi parhau yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys monitro sgrinio, cefnogi cydlynwyr sgrinio cyn geni mewn byrddau iechyd, arweinwr llywodraethu rhaglenni sgrinio i famau a phlant a sonograffwyr arweiniol. Ac archwiliadau rheolaidd hefyd a pharatoi a chyflwyno deunyddiau addysg.
Mae rhaglen Sgrinio Cyn Geni Cymru yn cynnwys rhanddeiliaid ledled Cymru a'r DU yn y gwaith parhaus o fonitro safonau a phrotocolau ar gyfer sgrinio cyn geni.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Sgrinio Cyn Geni Cymru drwy fynd i wefan y rhaglen
Mae Adroddiad Blynyddol Sgrinio Cyn Geni Cymru 2018-19 ar gael yn llawn ar-lein yma: