Neidio i'r prif gynnwy

Sêr Cymru yn ôl ymgyrch fyd-eang i rybuddio pobl am beryglon gorddefnyddio gwrthfiotigau

Cyhoeddwyd: 21 Tachwedd 2024

Mae pobl enwog o Gymru yn cefnogi ymgyrch fyd-eang i dynnu sylw at fygythiad ymwrthedd i wrthfiotigau.

Mae Nigel Owens, cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol Cymru, a Millie-Mae Adams, sef Miss Cymru, ill dau yn siarad am un o brif achosion marwolaeth yn fyd-eang. Mae un person yn marw bob chwe eiliad oherwydd heintiau sy'n gysylltiedig ag ymwrthedd i wrthfiotigau.

Dywedodd Nigel Owens, sy’n ffermio yn ne Cymru, fod gwrthfiotigau’n dod yn llai effeithiol oherwydd ein bod yn eu gorddefnyddio ac, mewn rhai achosion, ddim yn eu defnyddio’n iawn.

“Mae hon yn broblem y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hi yn awr cyn iddi waethygu. Mae gwrthfiotigau yn hanfodol o ran ymladd heintiau. Fel ffermwr, rwy’n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw ar gyfer iechyd ein hanifeiliaid hefyd. Mae’n rhaid i ni sicrhau y byddan nhw’n dal i weithio – ac mae hynny’n golygu eu defnyddio dim ond pan mae gweithiwr proffesiynol yn eu rhagnodi a dilyn ei gyngor wrth wneud hynny.”

Mae Millie-Mae Adams yn ategu'r alwad. Fel myfyriwr meddygol, mae’n dweud ei bod yn poeni am yr effaith y bydd ymwrthedd i wrthfiotigau yn ei chael yn y blynyddoedd i ddod.

“Ni fydd triniaethau arferol fel cemotherapi, trawsblannu organau na gosod cymalau newydd yn bosibl os na fydd y gwrthfiotigau sydd eu hangen arnom i’w cynnal yn ddiogel yn gweithio yn y dyfodol.

Dywed Adams, a gafodd ei choroni’n Miss Cymru yn 2023:

“Mae gwrthfiotigau yn adnodd gwerthfawr ac mae angen inni eu trin felly. Rhaid inni i gyd weithredu yn awr i arafu lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio gwrthfiotigau ar yr adegau pan fydd gwir angen gwneud hynny’n unig.

Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn digwydd pan fo bacteria yn dod o hyd i ffordd o drechu'r cyffuriau sydd wedi'u datblygu i'w lladd. Pan fyddwn yn defnyddio gwrthfiotigau, rydyn ni'n rhoi cyfle i'r bacteria ymladd yn ôl.

Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau yn y blynyddoedd diwethaf yn golygu eu bod yn mynd yn llai effeithiol.

Esbonia Dr Eleri Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol a Phennaeth y Rhaglen Heintiau Cysylltiedig â Gofal Iechyd ac Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, sut y mae eisoes yn effeithio ar bobl yng Nghymru:

“Mae ein data yn dangos bod un o bob chwe achos o sepsis yng Nghymru yn gallu gwrthsefyll ein gwrthfiotig dewis cyntaf. Os na chaiff sepsis ei drin yn gynnar, gall droi’n sioc septig ac achosi i’ch organau fethu, a all fod yn angheuol.

“Mae un o bob tri haint y llwybr wrinol (UTI) hefyd yn gallu gwrthsefyll un o'n gwrthfiotigau dewis cyntaf. Gall hyn arwain at symptomau hirach, anghysur a gall arwain at heintiau yn yr arennau yn ogystal â sepsis.

Mae'n rhaid i ni weithredu yn awr i frwydro yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau. O ran aelodau’r cyhoedd, mae hyn yn golygu na ddylent ond gymryd gwrthfiotigau pan fo gweithiwr gofal proffesiynol yn eu rhagnodi ar eu cyfer. Ni ddylent byth eu rhannu ag unigolyn arall na’u cadw i’w defnyddio yn y dyfodol.”