Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i gydweithio'n agosach â'i gilydd i ddiogelu a gwella bywydau ac iechyd pobl yng Nghymru, yn ogystal â'r amgylchedd naturiol y maent yn byw ynddo.
Bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd ar 30 Ionawr 2020 yn sicrhau bod y sefydliadau'n cydweithio i ddatblygu amcanion, canllawiau, tystiolaeth a chamau gweithredu a rennir i ddangos y rôl sydd gan ein hadnoddau naturiol wrth ddiogelu a gwella iechyd a llesiant pobl.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd yn cydweithio'n agos ac yn effeithiol mewn sawl maes, fel newid yn yr hinsawdd, ansawdd aer, a hyrwyddo manteision yr awyr agored i iechyd a llesiant corfforol a meddyliol.
Meddai Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r memorandwm hwn yn gam arwyddocaol ymlaen yn y bartneriaeth gyffrous a phwrpasol rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn ymateb i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
“Mae ein mannau awyr agored yn perthyn i bob un ohonom. Maent yn adnodd gwerthfawr i holl bobl Cymru, yn gyfle gwerthfawr i wella ein llesiant corfforol a meddyliol, a'n helpu i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach.
"Drwy feddwl a gweithredu'n gynaliadwy byddwn yn gweithio'n gilydd tuag at ein nodau cyfunol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ystyrlon i fywydau pobl ledled Cymru."
Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae'r amgylchedd naturiol yn cael effaith enfawr ar ein bywydau ni i gyd. Nid yn unig y mae'n lle i bobl fod yn egnïol yn yr awyr agored, mae'n sylfaen i'n hiechyd a'n llesiant - gan ddarparu'r aer a anadlwn, y dŵr yr ydym yn ei yfed a'r bwyd yr ydym yn ei fwyta.
“Bydd y memorandwm yn sicrhau bod iechyd pobl yn cael ei ystyried yn ein holl waith yn edrych ar ôl amgylchedd Cymru, ac yn yr un modd bod adnoddau naturiol yn cael eu hystyried mewn datblygiadau iechyd cyhoeddus.
“Rwy'n gobeithio y bydd y berthynas agosach hon yn helpu ein sefydliadau i ddod o hyd i atebion arloesol i fynd i'r afael â'r heriau iechyd ac amgylcheddol a wynebwn yng Nghymru.”
Caiff dyheadau'r memorandwm eu hategu gan gynllun gweithredu a'u goruchwylio gan grŵp llywio ar y cyd i symud y cydweithredu yn ei flaen.
MoU Video from Public Health Wales on Vimeo.