Neidio i'r prif gynnwy

Safon Iechyd Corfforaethol – Aur!

Dyfarnwyd gwobr Safon Iechyd Corfforaethol aur i ni yn dilyn asesiad dau ddiwrnod.

Ymwelodd yr aseswyr â Chwr y Ddinas 2, Parc Magden, Microbioleg Abertawe, Sgrinio Babanod Cymru, Wrecsam a Phreswylfa dros ddeuddydd.

Mae'r wobr Safon Iechyd Corfforaethol yn arwydd o ansawdd iechyd a llesiant yn y gweithle, ac mae'n edrych ar y gwaith y mae'r sefydliad yn ei wneud i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, cynhwysol.

Meddai'r Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol, Phil Bushby: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd y safon hon. 

“Dywedwyd tair blynedd yn ôl mai dyma lle'r hoffem fod ond mae llwyddo i gyflawni hyn a gallu edrych yn ôl ar y tair blynedd diwethaf yn wych.

“Rwy'n falch iawn o Jane Rees a'r grŵp cyfan, y cysylltiadau llesiant a'r tîm ehangach am ddod â ni i'r sefyllfa hon.  Fel y gallwch ddweud, rwy'n llawn cyffro ac yn falch iawn.”

Dyfarnwyd gwobrau Efydd ac Arian i ni yn flaenorol, a byddwn yn dechrau cynllunio ar gyfer asesiad Platinwm yn 2021.