Cyhoeddwyd: 1 Hydref 2024
Gall ffliw beryglu bywyd pobl sydd â chyflyrau iechyd penodol. Dyna pam mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn annog y rhai sy'n wynebu risg glinigol i sicrhau eu bod yn cael eu brechu yn erbyn ffliw yn ogystal â COVID-19 yr hydref hwn. Bydd yn helpu i'w hamddiffyn rhag cael heintiau eilaidd.
Ystyrir bod dros 467,000 o bobl yng Nghymru yn wynebu risg glinigol, mae hyn yn cynnwys pobl â chyflyrau fel asthma, COPD, diabetes, clefyd yr afu/iau neu glefyd anadlol.
Gall ffliw a COVID-19 achosi salwch difrifol i bobl â chyflyrau iechyd hirdymor penodol. Er enghraifft, mae dros 99,000 o bobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru. Maent 6 gwaith yn fwy tebygol o farw o ffliw ac maent hefyd yn wynebu risg uchel o COVID-19. Mae dros 12,000 o bobl â chlefyd yr afu/iau yng Nghymru. Os oes gennych glefyd yr afu/iau rydych 48 gwaith yn fwy tebygol o farw o ffliw ac rydych hefyd yn wynebu risg uchel o COVID-19 (Gweler rhagor o enghreifftiau yn y Nodiadau i Olygyddion isod). Mae dros 14,000 o bobl yng Nghymru â chlefyd yr arennau. Maent 19 gwaith yn fwy tebygol o farw o ffliw ac maent hefyd yn wynebu risg uchel o COVID-19.
Mae ffliw a Covid-19 yn lledaenu'n haws yn ystod y gaeaf oherwydd rydym yn treulio mwy o amser dan do gydag eraill. Yng Nghymru y llynedd, cafodd bron 2,000 o bobl eu derbyn i'r ysbyty gyda ffliw. Gall pobl â chyflyrau hirdymor leihau eu siawns o gael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd ffliw hyd at draean, dim ond drwy gael eu brechu.
Cael eich brechu yw'r amddiffyniad gorau o hyd yn erbyn clefyd difrifol. Gall dal ffliw arwain at heintiau eilaidd fel broncitis a niwmonia. Mae feirysau ffliw yn newid yn gyflym, felly bob blwyddyn mae angen brechlyn wedi'i ddiweddaru i gynnig amddiffyniad. Bydd ychwanegu at eich brechiad COVID-19 yn lleihau symptomau difrifol ac yn cyflymu'ch gwellhad os byddwch yn dal COVID-19. Bydd yr amddiffyniad hwn yn para drwy'r gaeaf.
Mae brechu plant nid yn unig yn eu hamddiffyn, ond mae hefyd yn amddiffyn perthnasau hŷn, y gymuned ehangach a'r GIG. Bydd pob plentyn oed ysgol yn cael cynnig y brechlyn ffliw eleni, yn ogystal â phlant 2 a 3 oed, y rhai sy'n wynebu risg glinigol neu dros 65 oed a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
I hyrwyddo'r brechiadau hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch i annog pobl i amddiffyn eu hunain y gaeaf hwn. Bydd meddygon teulu a byrddau iechyd yn cysylltu â'r rhai sy'n gymwys gyda manylion ynghylch pryd a ble y gallant gael eu brechu. Cynghorir pobl i ddod ymlaen cyn gynted â phosibl unwaith y cysylltir â nhw i gael eu brechiad.
Gyda disgwyl pwysau'r gaeaf ar y GIG, mae'n bwysicach nag erioed bod y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw neu Covid-19 am ddim yn cael eu brechu er mwyn helpu i'w hatal rhag mynd yn ddifrifol sâl a diogelu'r GIG y gaeaf hwn.
Fel yr esbonia Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru,
“Efallai na fydd llawer o bobl â chyflyrau cyffredin fel asthma neu ddiabetes yn ystyried eu bod yn wynebu risg glinigol, ond gall ffliw fod yn ddifrifol i bobl â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes. Mae'n hysbys mai cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw. Yn yr un modd, mae brechiad COVID-19 yn yr hydref yn ymestyn yr amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol. Mae unrhyw sgil-effeithiau o'r brechiadau fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn para'n hir. “