Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith y GIG yn sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu diogelu er gwaethaf her ddigynsail y pandemig

Cyhoeddwyd: 5 Awst 2021

Yn ôl adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, llwyddodd Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru i barhau ei waith hanfodol i ddiogelu grwpiau agored i niwed yn effeithiol er gwaethaf y cynnydd sylweddol yn y galw a'r heriau eithafol a achoswyd gan bandemig y Coronafeirws.  

Mae'r Tîm Diogelu Cenedlaethol yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG i wella'n barhaus diogelu grwpiau agored i niwed fel plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ar draws GIG Cymru ac asiantaethau partneriaeth eraill drwy gysylltu pobl, dysgu ac adnoddau. 

Mae’r adroddiad yn ymhelaethu ar y pethau hynod gymhleth, heriol a gyflawnwyd yn 2020-21 drwy gydweithio ar draws y Rhwydwaith a gweithredu ffyrdd arloesol newydd o weithio a oedd yn hanfodol i ddiogelu'r grwpiau hyn yn barhaus a lleihau'n sylweddol unrhyw effeithiau negyddol y gallai'r cyfyngiadau symud eu cael arnynt.  

Meddai Dr Aideen Naughton, Arweinydd Gwasanaeth y Tîm Diogelu Cenedlaethol, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Pan darodd pandemig COVID-19, yn ôl y disgwyl, y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a gafodd eu taro waethaf. I blant a phobl ifanc yng ngofal yr awdurdod lleol, roedd byw mewn unedau gofal maeth a phreswyl, i ffwrdd o deulu a ffrindiau wedi cael effaith andwyol ar eu hiechyd a'u llesiant. Cydnabuwyd bod y pandemig yn lleihau'r systemau cymorth arferol fel meithrinfa, ysgol, coleg, hobïau ac ymweliadau. O ganlyniad roedd y straen ychwanegol hwn yn cynnwys y potensial ar gyfer effaith negyddol ar lesiant plant agored i niwed. 

“Roedd hwn yn rhywbeth na allem adael iddo ddigwydd ac felly gwnaethom i gyd weithio gyda'n gilydd i feddwl am ffyrdd newydd, arloesol o barhau i ddiogelu'n effeithiol drwy bandemig byd-eang. Drwy wneud hyn gwnaethom hefyd nodi bod llawer o'r ffyrdd newydd o weithio yn fuddiol ac y dylent barhau i'r dyfodol. 

“Er enghraifft, roedd heriau gwirioneddol o ran asesiadau meddygol oedolion. Ar ddechrau'r pandemig daeth yn amlwg ei bod yn mynd yn fwyfwy anodd i ddarpar mabwysiadwyr a gofalwyr maeth gael gafael ar asesiadau meddygol wyneb yn wyneb gyda meddygon teulu.  Roedd y materion a gododd nid yn unig yn ymwneud â'r gallu i weld pobl wyneb yn wyneb a'r asesiadau risg yr oedd angen iddynt fod ar waith i hwyluso hyn, ond hefyd ailflaenoriaethu gwaith gan bractisau meddygon teulu tuag at flaenoriaethau Covid. Gwnaethom gydweithio i gynllunio proses amgen i fynd i'r afael â'r risg o ‘dagfa yn y system’ ac i sicrhau ein bod yn cynnal llif cyson o ofalwyr maeth a mabwysiadwyr yn ystod y pandemig. Yn sgil natur frys y sefyllfa a oedd yn gysylltiedig â chynnal lefelau gofalwyr maeth, datblygwyd proses hunanasesu feddygol dros dro ar gyfer y sector maethu a sicrhau bod y mesurau diogelu angenrheidiol ar waith. Cafwyd cymeradwyaeth weinidogol ar gyfer hyblygrwydd dros dro yn y ddeddfwriaeth bresennol i wneud hyn a datblygwyd proses asesu feddygol rithwir ar gyfer y sector mabwysiadu a ddefnyddiwyd hefyd gan y sector maethu pan ddaeth y cyfnod dros dro ar gyfer hunanasesu i ben, er mwyn sicrhau y gallem barhau i asesu darpar fabwysiadwyr a gofalwyr maeth. Ar y cyfan cafodd y broses asesu ei chynnal drwy gydol y pandemig ac roeddem yn gallu cynnal llif cyson o fabwysiadwyr a gofalwyr maeth. Gwnaethom hefyd sicrhau bod Gweinidogion yn blaenoriaethu'r asesiadau meddygol hyn drwy sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn Fframwaith Gweithredu COVID-19 GIG Cymru.” 

Defnyddio technoleg ddigidol lle bynnag y bo'n bosibl oedd un o'r ffyrdd yr oedd GIG Cymru yn gallu sicrhau bod gwasanaethau wedi parhau, gyda'r manteision yn cynnwys: 

  • Sicrhau bod y prosesau cymeradwyo gofalwyr maeth a mabwysiadwyr wedi parhau gyda digon o gadernid i alluogi opsiynau lleoli tymor byr a hirdymor ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal a'r rhai â chynllun ar gyfer mabwysiadu 

  • Cafodd y defnydd o ymgyngoriadau ffôn a fideo eu treialu gyda Phlant sy'n Derbyn Gofal, pobl ifanc, gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol, gan gyflwyno cyfleoedd yn ogystal â heriau, gyda rhai plant yn ffafrio cyfathrebu'n ddigidol 

  • Roedd cyfathrebu digidol hefyd wedi galluogi rhai datgeliadau o gam-drin plant yn rhywiol hanesyddol na fyddent o bosibl wedi digwydd gydag asesiadau iechyd wyneb yn wyneb 

  • Mae Adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal wedi'u cynnal yn llwyddiannus 

  • Mae llawer o'r gwaith ym maes Mabwysiadu a Maethu ar gyfer Cynghorwyr Meddygol wedi parhau fel arfer 

  • Mae Paneli Mabwysiadu, Paneli Maethu a chyfarfodydd gyda darpar rieni mabwysiadol wedi parhau'n rhithwir ac mae'n debygol y bydd hyn yn parhau. 

  • Er gwaethaf y pwysau cynyddol hyn ar wasanaethau, llwyddodd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i bontio'n llwyddiannus i system adrodd diogelu ddigidol Cymru gyfan ac uwchsgilio gweithlu sy'n ehangu 

  • Mae'r modd y mae byrddau iechyd wedi darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth diogelu wedi pontio i lwyfannau rhithwir i sicrhau parhad gwasanaeth a safonau drwy gydol y pandemig. 

Mae Adroddiad Blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru yn rhannu'r ffyrdd y daeth y rhwydwaith â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i sicrhau y gallai'r gofal diogelu arferol gael ei ddarparu, ac y gallai cynnydd o ran diogelu barhau o hyd, er gwaethaf yr heriau a'r cyfyngiadau ychwanegol a achoswyd gan y pandemig.