Diweddarwyd: 23 Gorffennaf 2024
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod yn rhyddhau ei Adroddiad Ansawdd Blynyddol cyntaf o dan y Ddyletswydd Ansawdd newydd. Mae’r adroddiad yn cynnwys 50 o straeon sy'n dangos sut mae ein timau yn ysgogi ansawdd drwy nodi meysydd o bryder, datblygu cynlluniau gwella, a gweithredu atebion i wella ein gwasanaethau.
Mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn effeithio ar bob tîm yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, o'r gwasanaethau a ddarparwn i'r cyhoedd, fel ein Hadran Sgrinio, i swyddogaethau cymorth fel Cyllid a Phobl a Datblygu Sefydliadol. Gan ddod i rym ar 1 Ebrill 2023, mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Mae'n diffinio ansawdd fel “bodloni anghenion y boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu mewn modd parhaus, dibynadwy a chynaliadwy.” Mae'r Ddyletswydd hon yn cwmpasu 12 o Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal sy'n arwain ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ar draws pob rhan o'n sefydliad.
Mae un o'r straeon a amlygir yn adroddiad eleni yn canolbwyntio ar ein menter i fynd i'r afael â diabetes, sy'n bryder cynyddol yng Nghymru. Mae diabetes yn effeithio'n sylweddol ar iechyd, gan effeithio ar olwg, cylchrediad, ac yn arwain at glefyd y galon a'r arennau, anabledd hirdymor, a marwolaeth gynharach. Ers 2009-2010, mae Cymru wedi gweld cynnydd o 40% yn nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, amcangyfrifir y gallai un o bob 11 o oedolion yng Nghymru fod yn byw gyda diabetes erbyn 2035.
Mewn ymateb i'r ystadegau brawychus hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu'r Rhaglen Mynd i'r Afael â Diabetes Gyda'n Gilydd mewn cydweithrediad â phartneriaid y GIG. Nod y rhaglen hon yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy'n cyfrannu at y risg o ddatblygu diabetes a sicrhau gwell rheolaeth o'r cyflwr. Crëwyd pecyn cymorth i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 2 ymhlith staff GIG Cymru a gofal cymdeithasol, a’u hannog i ddarganfod eu risg o ddiabetes math 2.
Menter allweddol arall sy'n cael sylw yn yr adroddiad yw prosiect sydd â'r nod o gynyddu brechu teg i bobl sydd ag anableddau dysgu. Er gwaethaf rôl hanfodol brechiadau wrth atal clefydau, mae gan rai grwpiau, gan gynnwys y rhai ag anableddau dysgu, gyfraddau brechu is. I fynd i'r afael â hyn, cynhyrchodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â Gwelliant Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, fideo YouTube a chanllaw hawdd ei ddeall i esbonio'r broses frechu.
Mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i helpu pobl ag anableddau dysgu i wneud penderfyniadau gwybodus am frechiadau a deall sut i geisio cymorth yn ystod eu hapwyntiadau brechu. Mae'r fenter hon yn rhan o'n hymdrech ehangach i ddatblygu Cynllun Llythrennedd Brechu, gan sicrhau bod gwybodaeth am frechu yn hygyrch ac yn ddealladwy i bawb.
Pwysleisiodd Claire Birchall, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio, arwyddocâd y Ddyletswydd Ansawdd yn ei datganiad i ategu cyhoeddi'r Cynllun: "Mae'r Ddyletswydd Ansawdd a'r 12 o safonau yn rhoi'r strwythur a'r her sydd eu hangen arnom ac mae'n rhodd y byddwn yn ei defnyddio i barhau i fod ar ein gorau. Ein hymrwymiad yw gwella a datblygu ein gwasanaethau'n gyson gydag ansawdd a gwella wrth wraidd popeth a wnawn.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i gyflawni dyfodol iachach i bobl Cymru drwy ymgorffori'r Ddyletswydd Ansawdd ym mhob un o'n prosesau a'n gwasanaethau. Edrychwn ymlaen at barhau â'r daith hon o wella a rhagoriaeth yn y blynyddoedd i ddod.”
I gael mewnwelediadau manylach, darllenwch ein Hadroddiad Ansawdd Blynyddol ar gyfer 2023-2024.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ddyletswydd Ansawdd, ewch i'n tudalen we yma: https://icc.gig.cymru/amdanom-ni/ddyletswydd-ansawdd/