Cyhoeddwyd: 24 Hydref 2024
Mae’r adroddiadau blynyddol diweddaraf ar y rhaglenni iechyd cyhoeddus deintyddol a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol y GIG yng Nghymru wedi dangos bod y rhaglenni wedi gwella’n dda o’r saib yn ystod y pandemig.
Mae Cynllun Gwên, y rhaglen iechyd y geg i atal pydredd dannedd (a elwir hefyd yn dyllau) mewn plant, a ddarperir gan staff o'r saith bwrdd iechyd lleol drwy feithrinfeydd ac ysgolion cynradd, wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ei fesurau darparu allweddol ac yn y rhan fwyaf mae wedi dychwelyd i tua'r lefelau a gofnodwyd yn adroddiad 2018-2019.
Ym mlwyddyn academaidd 2023-24, cyflwynodd Cynllun Gwên sesiynau defnyddio farnais fflworid i fwy o leoliadau nag erioed o'r blaen, gyda 621 o ysgolion a meithrinfeydd yn cymryd rhan yn y rhaglen.
Yn ogystal, dosbarthwyd 35,544 o becynnau brwsio dannedd gartref gan ymwelwyr iechyd i deuluoedd er mwyn helpu i ddatblygu arferion iechyd y geg cadarnhaol ar y cam cynharaf, ynghyd â 16,562 o gwpanau hyfforddi.
Rhoddwyd hyfforddiant addysg iechyd y geg i 832 o weithwyr proffesiynol yn y meysydd gofal plant, iechyd a gofal cymdeithasol, a 640 o ymwelwyr iechyd a myfyrwyr.
Meddai Mary Wilson, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru,
“Yn amlwg roedd y tarfu ar ysgolion a meithrinfeydd yn ystod cyfyngiadau'r pandemig, ynghyd ag adleoli staff i feysydd blaenoriaeth eraill, yn golygu bod rhaglen Cynllun Gwên wedi'i hoedi, ac mae wedi gorfod adeiladu yn ôl. Rwy'n ddiolchgar iawn i waith caled staff y byrddau iechyd sy'n cyflwyno'r rhaglen ledled Cymru wrth ailadeiladu'r rhaglen i'w lefel cyn y pandemig.
“Mae'n galonogol iawn gweld bod cymaint o gynnydd wedi'i wneud wrth adfer y rhaglen, a fydd yn cael effaith hirdymor, gadarnhaol ar ddannedd plant yng Nghymru.”
Mae'r rhaglen Gwên am Byth wedi'i thargedu at gartrefi gofal a nyrsio ac mae wedi'i hanelu at hyfforddi staff sy'n cyflwyno gofal personol i ddod yn ‘hyrwyddwyr’ gofal y geg, a fydd wedyn yn cael eu cefnogi i hyfforddi eu cydweithwyr.
Mae 495 o'r 586 o gartrefi nyrsio a gofal preswyl yng Nghymru yn cymryd rhan yn rhaglen Gwên am Byth, ac mae dros 5000 o staff wedi mynd i 1262 o sesiynau a ddarperir gan dimau deintyddol byrddau iechyd.
Meddai Mary Wilson,
“Mae sicrhau bod pobl sy'n byw mewn cartrefi nyrsio a gofal preswyl yn cael y gofal y geg gorau posibl yn gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal ag ansawdd bywyd yn gyffredinol. Mae rhaglen Gwên am Byth wedi'i chynllunio i sicrhau bod staff mewn cartrefi nyrsio a gofal yn dra chymwys i hyrwyddo'r gofal iechyd y geg gorau posibl i'w preswylwyr, ac rydym wrth ein bodd ei bod yn gwneud mor dda.”