Cyhoeddwyd: 12 Mehefin 2023
Mae Wythnos Diabetes yn nodi pen-blwydd cyntaf Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP). Yng ngham cyntaf ei chyflwyno, mae’r rhaglen wedi cynnig cymorth i fwy na 3,000 o bobl ledled Cymru sy'n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2.
Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, ac mae gan naw o bob 10 ohonynt ddiabetes math 2. Mae diabetes math 2 yn gyflwr difrifol, ac weithiau'n gyflwr gydol oes. Mae’n un o brif achosion colli golwg ac yn cyfrannu at fethiant yr arennau, trawiad ar y galon a strôc. Fodd bynnag, yn wahanol i ddiabetes math 1, gellir atal math 2. Drwy fwyta'n dda, symud mwy a chyrraedd pwysau iachach, gall pobl leihau eu risg o ddatblygu diabetes math 2.
Mae'r AWDPP yn defnyddio canlyniadau prawf gwaed i nodi pobl sy'n wynebu risg o ddatblygu diabetes math 2. Mae pobl sy'n gymwys ar gyfer y rhaglen yn cael cynnig apwyntiad gyda gweithiwr cymorth gofal iechyd wedi'i hyfforddi'n arbennig, sy'n siarad â nhw am eu lefel risg a'r hyn y gallant ei wneud i'w lleihau. Gellir atgyfeirio unigolion i ffynonellau cymorth ychwanegol i'w helpu i wneud newidiadau i'w deiet a dod yn fwy egnïol yn gorfforol. Cynhelir apwyntiad dilynol flwyddyn yn ddiweddarach.
Meddai Dr Amrita Jesurasa, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus: “Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy na 3,000 o bobl wedi mynd i ymgynghoriad AWDPP. Rydym wrth ein bodd bod dros hanner y bobl sydd wedi'u gwahodd i drefnu apwyntiad wedi manteisio ar y cynnig.
“Mae'r rhaglen bellach yn cael ei chyflwyno mewn 28 o 60 o glystyrau gofal sylfaenol ledled Cymru. Rydym yn gobeithio adeiladu ar yr ymateb cadarnhaol hwn i'r rhaglen wrth iddi gael ei chyflwyno mewn clystyrau ychwanegol dros y misoedd nesaf.”
I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP) ewch yma.