Neidio i'r prif gynnwy

Profodd unigolion a oedd yn gwarchod ostyngiad yn y defnydd o ofal iechyd, a risg uwch o iechyd meddwl gwael, yn ystod y pandemig

Cyhoeddwyd: 29 Gorffennaf 2021

Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn nodi gostyngiadau amlwg mewn gofal yn yr ysbyty yn ystod pandemig y Coronafeirws ymhlith y rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol i symptomau difrifol Coronafeirws ac wedi'u cynghori i warchod; a bod y boblogaeth hon yn wynebu risg uwch o brofi iechyd meddwl gwaeth na'r boblogaeth gyffredinol o fis Mawrth i fis Medi 2021. 

Roedd yr astudiaeth hon yn seiliedig ar fwy na 127,000 o bobl a gynghorwyd i warchod yng Nghymru (sy'n cynrychioli tua 4 y cant o'r boblogaeth). Roedd y boblogaeth sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn grŵp amrywiol iawn, gydag anghenion iechyd cymhleth. Y cyflyrau sylfaenol mwyaf cyffredin oedd anadlol (37 y cant), wedi'i ddilyn gan imiwnoataliedig (27 y cant) a chanser (21 y cant).

Gan adlewyrchu'r anghenion iechyd cymhleth hyn, mae lefelau cyffredinol y defnydd o ofal iechyd fel arfer yn llawer uwch ymhlith y boblogaeth sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol na'r boblogaeth gyffredinol. Ond yn 2020, o gymharu â 2019, roedd y gostyngiadau mwyaf yn y defnydd o ofal iechyd brys ymhlith y boblogaeth sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol;

  • Gostyngodd presenoldeb mewn adrannau achosion brys 24 y cant ymhlith y boblogaeth sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ac 20 y cant ymhlith y boblogaeth gyffredinol.
  • Gostyngodd derbyniadau brys i'r ysbyty 26 y cant ymhlith y boblogaeth sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol a 13 y cant ymhlith y boblogaeth gyffredinol.

Mae llawer o ffactorau cymhleth sy'n debygol o gyfrannu at dueddiadau mewn gofal ar gyfer y boblogaeth sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.  Er bod gan y boblogaeth sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol lawer mwy o anghenion iechyd sylfaenol, roedd COVID-19 wedi tarfu ar reoli cyflyrau iechyd sylfaenol, ond gallai hefyd fod wedi cyfrannu at gleifion o bosibl yn gohirio gofal wedi'i gynllunio, os oeddent yn gallu, i adeg pan oeddent yn teimlo eu bod yn wynebu llai o risg.

Yn ystod y pandemig, cafodd gofal wedi'i gynllunio nad yw'n hanfodol ei atal ac roedd yr effaith yn amlwg yma. Canfu'r astudiaeth hefyd fod derbyniadau i'r ysbyty wedi'u cynllunio wedi gostwng tua thraean (32%) ymhlith y rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, a bod gofal cleifion allanol wedi'i gynllunio wedi gostwng 27% ymhlith y rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol a 31% ymhlith y boblogaeth gyffredinol.

Tynnodd yr astudiaeth sylw at anghydraddoldebau iechyd parhaus, gyda'r rhai sydd â mwy o anghenion iechyd yn llai tebygol o gael y gofal sydd ei angen arnynt. Roedd y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn amlwg gyda chyfraddau uwch o ofal brys ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig, yn y ddwy flynedd ymhlith y rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol a'r boblogaeth gyffredinol.

Meddai Jiao Song, Prif Ystadegydd ar gyfer Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Dyma'r astudiaeth feintiol gyntaf sy'n trafod newidiadau mewn cyflwyniad gofal iechyd yn benodol ar gyfer salwch meddwl ymhlith y boblogaeth sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol. Rhwng mis Mawrth a mis Medi 2020, canfuom fod 1 o bob 50 o'r boblogaeth eithriadol o agored i niwed yn glinigol â chofnod clinigol o iselder a/neu orbryder, ac roedd bron 1 o bob 5 ohonynt heb hanes blaenorol o salwch meddwl.”

Mae'r astudiaeth ‘COVID-19 yng Nghymru: Yr effaith ar ddefnydd o ofal iechyd ac iechyd meddwl y rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol’ wedi'i arwain gan Labordy Data Rhwydweithiol Cymru (NDL Cymru), sef rhaglen gydweithredol rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, SAIL Databank a Gofal Cymdeithasol Cymru ac wedi'i hariannu gan y Sefydliad Iechyd.

Meddai Ashley Akbari, Uwch-reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe,

“Mae cydweithio, rhannu a meithrin arbenigedd wedi bod yn rhan o'n gwerthoedd craidd a'n cryfderau yng Nghymru ers amser maith, ac yn ganolog i NDL Cymru a chydweithrediad ehangach NDL yn ei gyfanrwydd. Mae deall patrymau defnydd ac anghenion gofal iechyd ymhlith y rhai sy'n gwarchod yn hanfodol i sicrhau bod unrhyw ymyriadau poblogaeth pellach o'r natur hon yn y dyfodol, yn dysgu o bandemig COVID-19.”

Meddai Alisha Davies, Arweinydd Labordy Data Rhwydweithiol Cymru a Phennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru “Mae'r rhain yn ganfyddiadau pwysig i helpu'r ymateb gofal iechyd i gefnogi'r rhai sydd wedi bod yn gwarchod dros y flwyddyn ddiwethaf. O ystyried newid mor sylweddol mewn gofal ysbyty a thystiolaeth o'r ddeddf gofal gwrthgyfartal, mae angen canfyddiadau o'r astudiaeth hon ac eraill i roi dealltwriaeth fanylach o anghenion heb eu diwallu'r rhai eithriadol o agored i niwed yn glinigol a'r boblogaeth gyffredinol. Gall gwybodaeth o'r fath helpu i lywio darpariaeth effeithiol, effeithlon a chyfartal yn y dyfodol, tuag at ddiogelu rhag baich tymor hwy iechyd corfforol a meddyliol gwael yn dilyn y pandemig.”