Neidio i'r prif gynnwy

Profion gartref a thriniaeth ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed ar gael yng Nghymru

20 Mai 2024

Wrth i'r adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig gael ei gyhoeddi, hoffem atgoffa pobl bod gwasanaeth profi gartref am ddim yng Nghymru y gallwch ei ddefnyddio i brofi am feirysau a gludir yn y gwaed.

Dylai unigolion ystyried cael prawf os cawsant drallwysiad gwaed cyn mis Medi 1991, ac nad ydynt yn flaenorol wedi’u profi am feirws a gludir yn y gwaed. Os bydd pobl yn profi'n bositif, mae'n hawdd trin Hepatitis C a HIV gyda'r meddyginiaethau diweddaraf.

I bobl a gafodd drallwysiad gwaed cyn mis Medi 1991, mae'r risg o fod wedi cael haint yn isel iawn, ond gall pobl sy'n pryderu am eu risg gael mynediad at brawf am ddim a chyfrinachol am Hepatitis C a HIV gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ers 1991, mae'r holl roddwyr gwaed yn cael eu sgrinio am feirysau a gludir yn y gwaed bob tro y maent yn rhoi gwaed, ac mae'r holl waed yn cael ei brofi cyn iddo gael ei anfon i ysbytai.

Heddiw, os ydych wedi cael diagnosis o Hepatitis C neu HIV, mae triniaeth ar gael ac mae'r sgil-effeithiau yn brin. Gellir clirio Hepatitis C drwy gymryd tabledi am 8-12 wythnos ac mae HIV yn gyflwr y gellir ei drin yn hawdd, a gall cleifion ddisgwyl byw bywydau hir ac iach.

Hefyd, os ydych yn gwybod bod gennych HIV, ac yn cael triniaeth, mae'n rhywbeth na ellir ei drosglwyddo i unrhyw un arall.

Dywedodd Brendan Healy, Ymgynghorydd mewn Microbioleg a Chlefydau Heintus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae ein gwasanaeth profi feirysau a gludir yn y gwaed yn cynnig ffordd gyfrinachol a hawdd ei defnyddio i unigolion asesu eu risg a chymryd camau rhagweithiol tuag at ddiogelu eu hiechyd.

“Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at wasanaethau gofal iechyd hanfodol, gan gynnwys profi am feirysau a gludir yn y gwaed.  Mae ein gwasanaeth profi a phostio cyfrinachol am ddim yn grymuso unigolion i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd."

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth profi am Hepatitis C a HIV, ewch i https://icc.gig.cymru/YmholiadGwaedHeintiedig i wneud cais am eich pecyn profi gartref am ddim, cynnil a hawdd ei ddefnyddio.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig ar gael ar wefan yr Ymchwiliad. 

Mae rhagor o wybodaeth am Hepatitis C ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.