Neidio i'r prif gynnwy

Podlediad Health in Europe Sefydliad Iechyd y Byd Mynd i'r afael ag annhegwch ym maes iechyd er mwyn meithrin cymdeithasau tecach ac iachach

Yn y bennod ddiweddaraf o 'Health in Europe', mae Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop yn siarad â Dr Tracey Cooper, prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru am degwch iechyd a'r angen i lywodraethau a llunwyr polisi bontio bylchau i degwch er mwyn cryfhau'r adferiad o'r pandemig yn y pen draw.

Dyma'r bennod gyntaf mewn cyfres fer ar gyfiawnder iechyd sy'n cynnwys cyfweliadau ag ILGA Ewrop, Ffederasiwn Ewropeaidd y Sefydliadau Cenedlaethol sy'n Gweithio gyda'r Digartref (FEANTSA), Sefydliad Cenedlaethol Iechyd y Cyhoedd, y Sefydliad Ymchwil Economaidd a Sefydliad Gweriniaeth Amddiffyn Slofenia.
 

Adfer ar ôl y pandemig

Yn ystod y bennod, mae Dr Tracey Cooper yn tynnu sylw at y ffordd y mae awdurdodau iechyd wedi ymgymryd â rôl arweiniol wrth ymateb i natur heintus y pandemig, ond eu bod bellach yn dechrau ar gyfnod newydd sy'n gofyn am fynd i'r afael â niwed ehangach y pandemig a'i liniaru, a lleihau’r annhegwch presennol sydd wedi gwaethygu ac sy'n bygwth tanseilio'r adferiad. Mae'r annhegwch hwn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: effeithiau ar ddysgu, cyflyrau iechyd sylfaenol, amgylcheddau byw a cholli incwm.

Er bod awdurdodau iechyd cyhoeddus yn canolbwyntio ar gryfhau systemau iechyd, mae mynd i'r afael ag annhegwch yn cael effaith bellach ar gymdeithas ehangach. Mae Swyddfa Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygu Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd wedi cymryd rôl arweiniol, gan roi cymorth i wledydd fonitro cynnydd tuag at ofal iechyd tecach.

Mae hyn yn cynnwys pum cyflwr gwahanol sy'n cael effaith ddifrifol ar annhegwch ym maes iechyd, gan gynnwys: iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, diogelwch incwm a gwarchodaeth gymdeithasol, amodau byw, cyfalaf cymdeithasol a dynol, cyflogaeth ac amodau gwaith.
 

Gadael neb ar ôl ym maes iechyd

Mae tegwch iechyd yn rhan sylfaenol o dair colofn graidd Rhaglen Waith Ewrop 2020-2025, "United Action for Better Health": gwell iechyd a lles, mwy o bobl â chwmpas iechyd cyffredinol a mwy o bobl.

Drwy sicrhau bod awdurdodau iechyd a llunwyr penderfyniadau yn rhoi tegwch iechyd wrth wraidd cynlluniau adfer, gall hyn helpu i sicrhau systemau iechyd cryfach a chymdeithasau mwy llewyrchus o ganlyniad.
 

Gwrandewch ar y podlediad

Health in Europe: https://www.euro.who.int/en/media-centre/podcasts/health-in-europe