Neidio i'r prif gynnwy

Pecyn cymorth newydd yn galluogi i iechyd gael ei gynnwys mewn cynllunio tir yn y dyfodol

Cyhoeddwyd: 8 Hydref 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o'r Effaith ar iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol. 

Wedi’i ddylunio i helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adnodd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau iechyd a llesiant cadarnhaol mwyaf posibl drwy bolisïau cynllunio defnydd tir sy'n creu cymunedau iach, teg a chydlynus. 

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pwysigrwydd iechyd a chynllunio a'r natur ryngysylltiedig rhyngddynt wedi’i bwysleisio gan bandemig y Coronafeirws, yr effaith y mae camau i reoli trosglwyddiad, fel cyfyngiadau symud, wedi’i chael mewn perthynas â chyfleoedd tai a chyflogaeth a mynediad at leoedd a mannau. 

“Byddai byw mewn amgylcheddau sy'n galluogi ac yn hybu iechyd a llesiant da yn gweld gwelliant dramatig i ganlyniadau iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. Nod y pecyn cymorth hwn ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yw gwneud integreiddio iechyd a llesiant i unrhyw gynlluniau datblygu yn y dyfodol mor hawdd a syml â phosibl er mwyn i ni gyd allu edrych ymlaen at ddyfodol iachach.” 

Mae’r Pecyn Cymorth Ymarfer AEI yn canolbwyntio ar baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a Chanllawiau Cynllunio Atodol (SPG) ond yn yr un modd gallai lywio a chefnogi'r gwaith o ddatblygu Cynlluniau Datblygu Strategol ac adolygiadau o CDLl.

Nodau'r Pecyn Cymorth yw: 

  • Amlinellu ystyriaethau strategol a all gefnogi'r gwaith o wneud y defnydd gorau o gyfraniad iechyd cyhoeddus i'r polisi cynllunio defnydd tir 
  • Amlygu pwyntiau penodol o fewn y broses o ddatblygu polisi lle gellir gwneud cyfraniadau Iechyd Cyhoeddus allweddol i gefnogi a llywio’r polisi 
  • Darparu gwybodaeth ategol i sicrhau’r ystyriaeth fwyaf posibl o iechyd a llesiant mewn prosesau datblygu cynllunio drwy’r  defnydd o Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd  
  • Darparu enghreifftiau o astudiaethau achos bywyd go iawn diweddar gan y swyddogion a weithiodd ar y rhain 
  • Darparu adnoddau ymarferol i gymhwyso Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o fewn y broses o ddatblygu polisi, yn lleol yn bennaf ond gallai hyn gael ei gymhwyso yn rhanbarthol neu'n genedlaethol, lle a phan fo’n berthnasol (Gweler Rhan B, Adrannau 3 a 4). 

Mae’r adnodd wedi’i anelu'n bennaf at swyddogion polisi iechyd cyhoeddus a swyddogion chynllunio defnydd tir awdurdodau lleol. Yn yr un modd, gallai'r rhai sy'n gweithio mewn byrddau iechyd lleol, adrannau llywodraeth leol ychwanegol, swyddogion iechyd yr amgylchedd, y trydydd sector a phroffesiynau eraill yr amgylchedd adeiledig ei gael yn ddefnyddiol i sicrhau gweithio mwy cydgysylltiedig yn lleol ac integreiddio ymarfer. 

Mae ‘Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd a Chynlluniau Datblygu Lleol: Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer’ mewn dwy ran; mae Rhan A yn amlinellu’r cyd-destun a’r dulliau o gyflawni polisi, mae Rhan B yn cynnwys cyngor ac adnoddau ymarferol y gellir eu defnyddio fel pwynt cyfeirio hygyrch pan fydd angen gwneud hynny yn ystod y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol, Cynlluniau Datblygu Strategol a Chanllawiau Cynllunio Atodol. 

Gellir dod o hyd i'r adnodd llawn yma:

Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer