Neidio i'r prif gynnwy

Offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF) wedi'i ddiweddaru gyda'r data diweddaraf

Cyhoeddwyd: 18 Mawrth 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adnewyddu'r dangosyddion yn offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd. 

Diben Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, a gafodd ei gyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth 2016, yw helpu i ddeall yr effaith y mae ymddygiadau unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.  

Yn yr iteriad hwn mae'r dangosyddion canlynol wedi'u diweddaru: marwolaethau y gellir eu hosgoi, disgwyliad oes, ansawdd aer, ysmygu yn ystod beichiogrwydd, addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a dangosyddion marwolaethau gan gynnwys: clefydau anhrosglwyddadwy, anafiadau, damweiniau traffig ar y ffordd a marwolaethau oherwydd hunanladdiad. 

Marwolaethau y gellid eu hosgoi

  • Mae cyfradd marwolaethau y gellir eu hosgoi o glefydau endocrin a metabolaidd (categori sy'n cynnwys diabetes a gordewdra) yn codi'n sylweddol, o 3.5 fesul 100,000 yn 2011-13 i 5.8 fesul 100,000 yn 2022-24. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 66% dros y cyfnod. 
  • Am ragor o wybodaeth am gyffredinrwydd diabetes a'r hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag ef, gweler yr adroddiad Cyffredinrwydd diabetes – tueddiadau, ffactorau risg, ac amcanestyniadau 10 mlynedd
  • Mae cyfradd marwolaethau y gellir eu hosgoi o achosion sy'n gysylltiedig ag alcohol/cyffuriau hefyd wedi codi'n gyson, o 15.3 fesul 100,000 yn 2011-13 i 21.2 fesul 100,000 i fenywod yn 2022-24, ac o 31.6 i 43.9 i ddynion. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 45% i ddynion a chynnydd o 39% i fenywod. 
  • Mae proffil blynyddol diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2023-2024 yn cyflwyno anghydraddoldebau amlwg mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol. Mae awduron yr adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau, gan alw am fuddsoddi mewn gwaith atal ar yr un pryd. 
  • Canser yw'r achos mwyaf cyffredin o farwolaethau y gellir eu hosgoi ymhlith menywod. Mae’n arwain at tua 1,200 o farwolaethau bob blwyddyn. 
  • Mae rhagor o wybodaeth am ganser ac anghydraddoldebau ar gael yn yr adroddiad Anghydraddoldebau mewn cyfraddau canser yng Nghymru yn ôl nodweddion cymdeithasol-ddemograffig, 2011-2020 - Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymhlith dynion, clefyd cylchrediad y gwaed yw'r achos mwyaf cyffredin o farwolaethau y gellir eu hosgoi gyda’r cyfraddau wedi aros yn gyson ers 2011-13. Mae hyn yn arwain at tua 1,550 o farwolaethau'r flwyddyn. 
  • Mae cyfraddau marwolaethau y gellid eu hosgoi ar gyfer dynion o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chylchrediad y gwaed a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol/cyffuriau yn fwy na dwbl y cyfraddau cyfatebol ar gyfer menywod yn y cyfnod diweddaraf. 

Disgwyliad oes yng Nghymru 

  • Mae disgwyliad oes ychydig yn uwch yn 2022-24 nag yn 2021-23 i fenywod a dynion. Ymhlith menywod, mae disgwyliad oes wedi dychwelyd i'r ffigur cyn Covid, sef 82.2 mlynedd o 2017-19.  Mae'r un peth yn wir am ddynion, gan ddychwelyd i 78.3 o flynyddoedd. Dylid nodi fodd bynnag fod disgwyliad oes wedi bod yn aros yn ei unfan yng Nghymru ers 2011-13, sy'n newid sylweddol yn dilyn y cynnydd cyson mewn disgwyliad oes ar draws y degawdau blaenorol. Mae'r diffyg cynnydd hwn yn cael ei adlewyrchu'n eang ar draws gwledydd y G7, er enghraifft yn yr Almaen ac UDA. 
  • Ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, mae disgwyliad oes dynion yn amrywio o 75.0 mlynedd ym Merthyr Tudful i 80.3 mlynedd ym Mro Morgannwg, Powys a Sir Fynwy. Ymhlith menywod, mae disgwyliad oes yn amrywio o 79.2 mlynedd ym Mlaenau Gwent i 84.6 mlynedd yn Sir Fynwy. 

Marwolaethau – Clefydau anhrosglwyddadwy

  • Oedran - mae cyfraddau safonol marwolaethau cynamserol o glefydau anhrosglwyddadwy yng Nghymru wedi gostwng o 324.2 fesul 100,000 yn 2011-13 i 307.6 fesul 100,000 yn 2022-24, sy’n ostyngiad ystadegol arwyddocaol. 
  • Mae cyfradd y marwolaethau cynamserol o glefydau anhrosglwyddadwy yn y pumed â'r amddifadedd mwyaf yn fwy na dwywaith cyfradd y pumed â'r amddifadedd lleiaf yn 2022-2024 (486 o'i gymharu â 192 fesul 100,000). Mae'r bwlch rhwng y pumed â’r amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi bod yn ehangu ers y cyfnod 2012-2014, yn bennaf oherwydd bod cyfraddau yn y pumed â'r amddifadedd mwyaf yn gostwng. 

Marwolaethau – Marwolaethau oherwydd hunanladdiad 

Cynhyrchir Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd ar ran Llywodraeth Cymru ac fe’i datblygwyd yng nghyd-destun strategaethau a fframweithiau cenedlaethol eraill sy’n ceisio ysbrydoli a llywio camau gweithredu i wella iechyd y genedl. Yn benodol, mae’n sail i’r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ddarparu ystod fanylach o fesurau sy’n adlewyrchu’r penderfynyddion ehangach sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant. 

https://publichealthwales.shinyapps.io/PHOF_Dashboard_Wel/