Neidio i'r prif gynnwy

Nifer yr amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) yn codi i 488 o achosion yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 17 Mehefin 2021

Mae nifer yr achosion newydd o'r amrywiolyn Delta (21-APR-02) wedi codi i 488 yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn gynnydd o 173 achosion ers y diweddariad diwethaf a roddwyd ar 14 Mehefin. Disgwylir i nifer yr achosion godi ymhellach dros yr wythnosau nesaf gan fod amrywiolyn Delta yn haws i'w ddal na'r amrywiolyn amlycaf blaenorol, sef Alffa. 

Meddai Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r Coronafeirws yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn deall y gallai pobl fod yn bryderus am y cynnydd mewn achosion ond mae llawer y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain ac eraill.  Mae mor bwysig manteisio ar y cynnig i gael y ddau frechiad pan fyddwch yn ei gael, oherwydd bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn Delta ar ôl dau ddos.

“Rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â chadw pellter cymdeithasol erbyn hyn, ond, drwy gadw o leiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb gallwn gadw ein hunain a'n ffrindiau a'n teulu'n ddiogel.  Mae'r feirws yn gwasgaru mewn amgylchedd sydd wedi'i awyru'n dda, felly mae agor ffenestri a galluogi i aer ffres gylchredeg yn ffordd arall o gadw ein hunain yn ddiogel.

“Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau, rhaid i chi hunanynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich aelwyd yn datblygu symptomau. 

Mae Cwestiynau ac Atebion ar Amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Cwestiynau Cyffredin: amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) o'r Coronafeirws - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru))

Nodir nifer yr achosion o'r amrywiolyn yng Nghymru ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru am 12pm ar ddydd Llun a dydd Iau. 

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd am amrywiolion fesul bwrdd iechyd ar hyn o bryd, ond gall gadarnhau bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi rhoi gwybod am achosion.  Fel rhan o welliannau i'n gwyliadwriaeth, rydym yn ystyried adrodd fesul ardal bwrdd iechyd fel rhan o adroddiadau rheolaidd ar ein dangosfwrdd gwyliadwriaeth.