Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd: 23 Ebrill 2021

Ym mis Mawrth, gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddau gyhoeddiad ynghylch aelodaeth Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Jan Williams wedi cael ei hailbenodi yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru am ail dymor pedair blynedd, o 4 Medi 2021.

Dywedodd Jan Williams:

“Mae’n anrhydedd i mi gael fy mhenodi am ail dymor, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau fy mhartneriaeth gyda Tracey ac i weithio ochr yn ochr â’m cyd-aelodau o'r Bwrdd, wrth i ni edrych tuag at gam nesaf datblygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld staff o bob rhan o’r sefydliad yn gweithio’n ddiflino ac yn anhunanol i ddiogelu a chefnogi pobl Cymru, wrth i’r pandemig Covid-19 ymsefydlu ar draws y wlad; maent wedi bod yn rhagorol ac mae’n fraint i mi barhau yn fy rôl fel cadeirydd.”

Mae’r Cyfarwyddwr Anweithredol Mohammed Mehmet wedi gwasanaethu ar y Bwrdd ar sail rhannu rôl ers mis Hydref 2020. Mae’r Gweinidog hefyd wedi penodi Mohammed Mehmet yn amser llawn yn rôl Awdurdod Lleol ar y Bwrdd ar gyfer 2021/22, yn dilyn ymddeoliad Alison Ward yn Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sydd hefyd yn golygu ei bod wedi camu i lawr o rannu rôl â Mohammed.

 Wrth sôn am y newidiadau, dywedodd Jan Williams:

“Rydym yn diolch o galon i Alison. Yn ei dau dymor ar wahân ar y Bwrdd, mae Alison wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol rhagorol, gan roi cyngor doeth a chael effaith sylweddol. Mae wedi bod yn llysgennad effeithiol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio ei rhwydweithiau a chysylltiadau niferus i hyrwyddo a chefnogi ein rôl arweinyddiaeth systemau. Byddwn yn ei cholli'n fawr.

“Rwyf wrth fy modd y bydd Mohammed nawr yn camu i mewn i’r rôl Llywodraeth Leol yn amser llawn ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae'n dod â chyfoeth o arbenigedd a phrofiad ac mae pob un o'm cyd-aelodau o'r Bwrdd yn ymuno â mi wrth groesawu ei benodiad amser llawn.”

Ynglŷn â'r Bwrdd

Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Corff Llywodraethu'r sefydliad, gyda Chyfarwyddwyr Anweithredol a Gweithredol yn aelodau llawn a chyfartal gan rannu cyfrifoldeb corfforaethol am y penderfyniadau y mae'n eu gwneud.

Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb am bennu cyfeiriad strategol, pennu archwaeth risg strategol a goruchwylio risgiau strategol, pennu'r cywair a'r diwylliant, datblygu a chynnal perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol ac am fonitro'r broses o gyflawni nodau ac amcanion Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bywgraffiadau

Mae gan Jan Williams brofiad o uwch arweinyddiaeth ar draws y system gofal iechyd gyfan yng Nghymru, gyda hanes cryf o arwain a datblygu sefydliadol, mewn gwyddor gwella ac ym meysydd ymchwilio, arolygu a rheoleiddio fel y maent yn berthnasol i greu gwelliannau mewn polisi ac ymarfer.
Cafodd Jan ei haddysgu i lefel ôl-raddedig ym Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Aberdeen.  Ymunodd â'r GIG yn 1979 a chafodd nifer o uwch swyddi ar lefel Ymddiriedolaeth y GIG, Awdurdod Iechyd a Bwrdd Iechyd; Cafodd Jan hefyd uwch swyddi yn genedlaethol ac yn Llywodraeth Cymru.

Cyn ei phenodiad yn Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, o 2013 i 2017, roedd Jan yn Gomisiynydd heddluoedd Cymru, Swydd Gaer a Glannau Mersi Sir ar gyfer Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.  Roedd hyn yn cynnwys aelodaeth o Gorff Llywodraethu'r IPCC, goruchwylio ymchwiliadau annibynnol i'r heddluoedd dan sylw a pharatoi argymhellion dysgu er mwyn gwella polisi ac ymarfer. 
Yn ogystal â’i rôl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Jan yn aelod Bwrdd o’r Awdurdod Meinweoedd Dynol ac yn aelod annibynnol ar banel Sicrhau Ansawdd Adolygiad Dynladdiad Domestig y Swyddfa Gartref.

Mae Jan wedi derbyn OBE am wasanaethau i'r sector iechyd.

Mae gan Mohammed Mehmet ddeng mlynedd ar hugain o brofiad ym maes llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Addysg yn Islington, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant yn Peterborough ac, am un ar ddeg mlynedd, yn Brif Weithredwr dwy sir yng Nghymru: Sir Ddinbych ac yna Powys.

Mae wedi gwasanaethu ar fyrddau gweinidogol cenedlaethol, gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Bwrdd Adfer Addysg Merthyr Tudful. Ers 2018, bu'n Gyfarwyddwr Anweithredol Dŵr Hafren Dyfrdwy, ac yn fwy diweddar yn un o ymddiriedolwyr Cymorth Canser Macmillan a MIND yn Enfield.