Wrth i ni ddechrau mwynhau'r tywydd cynhesach a'r dyddiau hirach, bydd llawer ohonom yn edrych ymlaen at wyliau, digwyddiadau a dod at ein gilydd gyda theulu a ffrindiau. Er bod yr haf yn amser gwych i ymlacio a mwynhau treulio mwy o amser yn yr awyr agored, mae'n bwysig cofio rhai pethau syml y gallwn eu gwneud i gadw'n iach ac amddiffyn y rhai o'n cwmpas.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl yng Nghymru i ‘Fwynhau'r Haf yn Ddiogel’ gyda rhai ffyrdd hawdd o leihau lledaeniad afiechydon cyffredin:
· Golchwch eich dwylo'n rheolaidd â sebon a dŵr
· Gwiriwch eich bod chi a'ch teulu wedi cael eich brechiadau diweddaraf
· Arhoswch gartref os ydych yn sâl
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn rhannu awgrymiadau ar gyfer cadw'n ddiogel yn yr haul, nofio'n ddiogel, bwyta allan a theithio'n ddiogel.
Meddai Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r haf yn amser gwych i ddod at ein gilydd gyda theulu ac anwyliaid a bydd llawer ohonom yn mwynhau dod at ein gilydd, diwrnodau allan a mynd ar wyliau gartref a thramor.
“Brechiadau yw'r amddiffyniad gorau felly sicrhewch eich bod chi a'ch teulu wedi cael eich brechiadau diweddaraf. Os ydych yn teithio dramor, gwiriwch pa frechiadau sydd eu hangen arnoch i aros wedi'ch amddiffyn.
“Gall fod yn hawdd meddwl bod COVID-19 a feirysau eraill wedi diflannu gyda'r gaeaf y tu ôl i ni bellach, ond yn anffodus nid yw hyn yn wir ac mae risg o hyd i'r rhai sy'n fwy agored i niwed. Felly, cofiwch olchi eich dwylo'n rheolaidd ac os ydych yn sâl, cadwch draw oddi wrth eraill fel y gallwn gadw ein hunain a'n hanwyliaid yn iach a pharhau i fwynhau'r haf gyda'n gilydd.
“Mae hefyd yn bwysig bod yn wyliadwrus a chofio cyngor diogelwch sylfaenol yr haf hwn pan fyddwch yn mwynhau'r tywydd cynhesach. Amddiffynnwch eich hun rhag yr haul drwy wisgo dillad llac, eli haul ffactor uchel a sbectol haul ag amddiffyniad UV. Bydd yfed digon o ddŵr yn sicrhau eich bod wedi eich hydradu hefyd.
“Dros yr wythnosau nesaf byddwn hefyd yn rhannu cyngor ar ddiogelwch yn y dŵr, sut i gael barbeciw yn ddiogel yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer teithio i'ch helpu chi a'ch teulu i gadw'n iach.”
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar sut i fwynhau'r haf yn ddiogel, ewch yma.