Neidio i'r prif gynnwy

Mwy nag ymateb i'r Coronafeirws; pam y dylai iechyd y boblogaeth fod yn uchel ar yr agenda bob amser

Cyhoeddwyd: 17 Mai 2022

Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n esbonio pam mae astudio iechyd y boblogaeth ehangach bob amser yn hanfodol i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a llesiant bobl, a hyd yn oed yn fwy felly wrth wynebu pandemig byd-eang. 

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o reoli'r Coronafeirws. Mae ein harbenigedd wedi dylanwadu ar nodi heintiau, ac yn sail i hyn mae cyngor ar hunanamddiffyn ac wedi llywio'r cyfyngiadau angenrheidiol a roddwyd ar waith ledled Cymru er mwyn lleihau lledaeniad y feirws. Fodd bynnag, hyd yn oed yng nghamau cynnar y pandemig, roedd yn amlwg y byddai newidiadau mor ddramatig i fywydau pobl yn cael ôl-effeithiau dwfn ar eu hiechyd meddwl a chorfforol uniongyrchol a hirdymor.  

“Roedd angen gwybodaeth newydd arnom am sut roedd pobl yn ymdopi â mwy o ynysu, cyfyngiadau ar eu symudiadau a llai o fynediad at wasanaethau. Roedd angen i ni ddeall sut roedd gwledydd eraill yn ymdopi â ffyrdd newydd o fyw a gweithio, dysgu ohonynt a'u helpu i ddysgu oddi wrthym. At hynny, er mai'r pandemig oedd y prif bryder i bobl a gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, roedd angen o hyd i ni sicrhau bod bygythiadau eraill a oedd yn bodoli eisoes a bygythiadau posibl i iechyd pobl yn cael eu monitro, eu hasesu a mynd i'r afael â nhw wrth i'r pandemig fynd rhagddo.  

“Er mwyn ateb llawer o'r heriau hyn, sefydlodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Grŵp Iechyd y Boblogaeth (PHG), gan ddod ag unigolion at ei gilydd o bob rhan o'r sefydliad cyfan er mwyn ystyried y niwed ehangach sy'n deillio o'r pandemig neu'n parhau drwy'r pandemig a mynd i'r afael â hyn. Gydag ychydig o gyllid a llawer o ewyllys da a brwdfrydedd, mae'r grŵp a'r staff y maent yn eu cynrychioli wedi gwneud gwaith hanfodol i ddylanwadu ar sut rydym ni ac eraill yn diogelu ac yn hyrwyddo iechyd ehangach drwy gydol y pandemig. Wrth i gyfyngiadau'r pandemig gilio, ac wrth i sylw ein sefydliad cyfan symud yn ôl i iechyd y boblogaeth ac anghydraddoldebau, rydym wedi tynnu ynghyd gofnod o rywfaint o gyflawniadau Grŵp Iechyd y Boblogaeth. 

“Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf’, mae'r grŵp wedi llunio a chyhoeddi mwy nag 80 o adroddiadau, gyda'r pynciau'n cynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:  

  • Masnach 
  • Cyflogaeth a gwaith teg 
  • Canfyddiadau, agweddau ac ymddygiad y cyhoedd at y Coronafeirws a'i gyfyngiadau 
  • Heriau llesiant 
  • Gweithio gartref a gweithio ystwyth 
  • Newid hinsawdd  
  • Trais a cham-drin domestig  
  • Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod 
  • Gofalwyr 
  • Incwm Sylfaenol 
  • Natur agored i niwed  
  • Effeithiau iechyd penderfyniadau polisi 
  • Sganio gorwelion rhyngwladol ar fesurau Coronafeirws 
  • Addysg 
  • Anghydraddoldebau 
  • Tueddiadau'r dyfodol 
  • Her driphlyg newid hinsawdd, Coronafeirws a Brexit 
  • Petruster brechu 
  • Ynni'r cartref 
  • Cynllunio mannau iach 
  • Datgarboneiddio 

“Rwyf wedi cael y pleser o gadeirio'r grŵp hwn drwy'r pandemig a hoffwn ddiolch i'm his-gadeiryddion (Tracy Black a Sally Attwood), holl aelodau'r grŵp a'r amrywiaeth eang o staff ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd wedi cyfrannu eu gwaith a'u hymroddiad drwyddi draw. Diolch hefyd i'r Weithrediaeth a'r Bwrdd am gydnabod yr angen i fynd i'r afael â materion iechyd ehangach yn ystod y pandemig a chreu'r adnodd a'r lle i wneud hyn yn bosibl. Gobeithio na fyddwn yn wynebu argyfwng arall fel Coronafeirws am flynyddoedd lawer. Fodd bynnag, os bydd pandemig arall yn dod i'r amlwg, rwy'n gobeithio y bydd yr hyn a ddysgwyd o'r Grŵp Iechyd y Boblogaeth yn golygu ein bod wedi paratoi'n dda ar gyfer llawer o'r heriau anochel y bydd yn eu cyflwyno i iechyd cyhoeddus yng Nghymru.”