Cyhoeddwyd: 3 Medi 2025
Mae modelu newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhagweld y bydd tua 24,000 o achosion canser newydd* yng Nghymru yn cael eu nodi yn 2035, cynnydd rhagamcanedig o 11 y cant o 2025.
Mae'r cynnydd, a ddisgrifir mewn adroddiad newydd “Canser yng Nghymru – tueddiadau a rhagamcanion”, i raddau helaeth oherwydd y boblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru, gan fod canser yn fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn. Yn yr ugain mlynedd rhwng 2005 a 2025, amcangyfrifir bod nifer y bobl oed 65 oed a hŷn yng Nghymru wedi cynyddu i 186,000 yn fwy a rhagwelir y bydd yn cynyddu 135,000 yn fwy yn y degawd nesaf.
Mae canser yn cyfrif am tua un o bob pedwar marwolaeth o bobl yng Nghymru. Roedd 9,123 o farwolaethau yng Nghymru wedi'u cofnodi fel rhai a achoswyd gan ganser yn 2024. Er bod y tebygolrwydd o oroesi am fwy na phum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser wedi bod yn cynyddu, mae cyfanswm y nifer o achosion newydd wedi cynyddu – sy'n golygu bod deg y cant yn fwy o farwolaethau o ganser yng Nghymru yn awr nag a oedd yn 2002.
Mae ychydig dros hanner nifer yr achosion o ganser yn deillio o'r pedwar math mwyaf cyffredin – canser y prostad, canser y fron, canser yr ysgyfaint a chanser y colon a'r rhefr (y coluddyn). Canser yr ysgyfaint sy'n gyfrifol am y nifer uchaf o farwolaethau o ganser, yn rhannol oherwydd yn aml y ceir diagnosis hwyr.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhagweld yn yr adroddiad y bydd rhagor o achosion o ganser y prostad, canser y fron a chanser y coluddyn bob blwyddyn erbyn 2035. Oherwydd heriau o ran cipio effaith patrymau ysmygu sy'n newid ac effaith bosibl y rhaglen sgrinio genedlaethol wedi'i thargedu – a fydd yn cael ei chyflwyno yn 2027 - nid oedd yn bosibl rhagweld nifer yr achosion o ganser yr ysgyfaint.
Yn ogystal â hyn, mae tystiolaeth sydd wedi’i hen sefydlu wedi dangos y gellir atal tua phedwar o bob deg canser newydd, trwy leihau ffactorau risg fel ysmygu, byw gyda gorbwysau neu ordewdra, yfed alcohol, haint HPV neu gael gormod o amlygiad uwchfioled.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad oes arwyddion o gau'r bylchau amddifadedd mewn diagnosis o ganser a goroesiad. Ar ôl addasu ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau oedran, mae nifer yr achosion o ganser un rhan o bump yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o'i gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae'r bwlch hwn wedi aros ar yr un lefel ers bron i ugain mlynedd.
Dywedodd Dr Llion Davies, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Wrth i bobl fyw’n hirach, rhagwelir y bydd rhagor o bobl yn cael diagnosis o ganser, gan mai mynd yn hŷn yw un o brif ffactorau sy’n achosi achosion o ganser.
“Mae gweithgarwch atal canser presennol yn cynnwys rhaglenni sgrinio presennol ac arfaethedig Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi'u cynllunio i nodi canserau ar gam cynnar y gellir eu trin yn haws, a'r gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu am ddim Helpa Fi i Stopio. Mae'n amlwg o dystiolaeth sefydledig y dylai buddsoddi mewn rhaglenni atal canser effeithiol fod yn flaenoriaeth - o ystyried y cynnydd a ragwelir mewn achosion yn y blynyddoedd i ddod.”
*Pob canser ac eithrio canserau croen nad ydynt yn melanoma.