Neidio i'r prif gynnwy

Marwolaethau oherwydd cyffuriau Cymru'n ddarlun cymhleth

Cyhoeddwyd: 19 Hydref 2022

Mae patrwm cymhleth sy'n datblygu o'r defnydd o gyffuriau ac argaeledd cyffuriau yn arwain at fwy o farwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru, gyda dwy ran o dair o farwolaethau yn 2021 yn cynnwys cyfuniad o gyffuriau, gan gynnwys alcohol a meddyginiaethau presgripsiwn.

Mae dadansoddiad manwl o dueddiadau cyffuriau ac ymyriadau lleihau niwed wedi'i gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r adroddiad blynyddol yn edrych yn fanwl ar y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ledled Cymru a'r DU a nodir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bob haf, a ddangosodd y cynnydd mwyaf erioed eleni.

Meddai Rick Lines, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, yn enwedig marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon gan gynnwys opiadau a chocên, yn ogystal â meddyginiaethau presgripsiwn a gafwyd drwy lwybrau anfeddygol yn cyflwyno heriau gwirioneddol o ran atal marwolaethau.

“Dros y pum mlynedd diwethaf, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chocên wedi mwy na dyblu.  Pryder arall hefyd yw'r cynnydd mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig â bensodiasepinau, sef dosbarth o gyffuriau tawelu gan gynnwys diazepam (a elwir fel arfer yn “faliwm”) naill ai wedi'u ragnodi neu a gafwyd yn anghyfreithlon, sydd hefyd wedi mwy na dyblu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

 “Mae modd atal marwolaethau cyn pryd oherwydd defnyddio cyffuriau. Mae pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn cael effaith sylweddol a hirhoedlog ar deulu, cyfoedion a chymunedau'r unigolyn. Er bod effaith marwolaethau oherwydd cyffuriau yn cael ei phrofi gan y sbectrwm economaidd-gymdeithasol cyfan, maent dros bum gwaith yn fwy tebygol o ddigwydd yn y rhai sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o gymharu â'r lleiaf difreintiedig.

“Mae Cymru'n gweithredu nifer o fentrau effeithiol gyda'r nod o atal neu leihau marwolaethau oherwydd cyffuriau, gan gynnwys y rhaglen genedlaethol Naloxone i'w Ddefnyddio Gartref a mynediad at driniaeth camddefnyddio sylweddau arbenigol. Yn y flwyddyn ddiwethaf, cafodd Naloxone ei ddefnyddio mewn 288 o achosion o orddos, gyda dim ond 3 marwolaethau wedi'u nodi.

“Fodd bynnag, yn sgil graddfa marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru, mae angen tystiolaeth ar effaith a dylanwad polisïau ac arferion ar lefelau gwahanol a'u rôl fel rhwystrau neu hwyluswyr i leihau marwolaethau oherwydd cyffuriau, er mwyn llywio newid.”

Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Fel mewn blynyddoedd blaenorol, y grŵp sylweddau mwyaf cyffredin a nodwyd oedd opioidau, a nodwyd mewn 150 o farwolaethau (71 y cant), yr oedd 93 y cant ohonynt yn cynnwys heroin/morffin. 
  • Y sylweddau eraill a nodwyd oedd diazepam, cocên a methadon. Nodwyd y defnydd o amryw o gyffuriau mewn 62 y cant (n=131) o farwolaethau oherwydd cyffuriau. 
  • Yn 2021, y gymhareb o farwolaethau ymhlith dynion a menywod oedd tua 3:1. Marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau ymhlith menywod oedd yr uchaf a nodwyd yn 2021, gyda 57 o farwolaethau. 
  • Digwyddodd y rhan fwyaf o farwolaethau yn y rhai yn y grŵp oedran 40-44 oed a nodwyd mewn 18 y cant o'r holl farwolaethau oherwydd cyffuriau (n = 38) yn 2021. 
  • Roedd 13 o farwolaethau oherwydd cyffuriau mewn pobl o dan 25 oed. 
  • Mae amrywiad daearyddol sylweddol o hyd o ran cyfraddau safonedig oedran o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau ledled Cymru, gyda'r cyfraddau'n amrywio o 1.4 i 13.5 marwolaeth fesul 100,000 o'r boblogaeth 
  • Roedd marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau dros 5 gwaith yn uwch ymhlith y rhai sy'n byw yn y 20 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r 20 y cant lleiaf difreintiedig yng Nghymru

Mae Cronfa Ddata Lleihau Niwed Cymru: Marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, Adroddiad Blynyddol 2021-22 yn mynd at wraidd data ONS a data o gronfa ddata Lleihau Niwed Cymru ar adolygiadau gwenwyn cyffuriau angheuol a'r rhai nad ydynt yn angheuol. Mae'r gronfa ddata wedi'i chynllunio i gefnogi iechyd, gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol a darparwyr gwasanaethau cysylltiedig, cynllunwyr, comisiynwyr a gwneuthurwyr polisi i leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn paratoi adroddiadau a gwybodaeth i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau ei fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau i ddiogelu a gwella iechyd.
Gall y rhai sy'n ceisio cymorth ar gyfer pryderon sy'n ymwneud â chyffuriau neu alcohol gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar radffon 0808 808 2234, drwy decstio DAN i: 81066 neu drwy fynd i dan247.org.uk