Cyhoeddwyd: 19 Hydref 2022
Mae patrwm cymhleth sy'n datblygu o'r defnydd o gyffuriau ac argaeledd cyffuriau yn arwain at fwy o farwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru, gyda dwy ran o dair o farwolaethau yn 2021 yn cynnwys cyfuniad o gyffuriau, gan gynnwys alcohol a meddyginiaethau presgripsiwn.
Mae dadansoddiad manwl o dueddiadau cyffuriau ac ymyriadau lleihau niwed wedi'i gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r adroddiad blynyddol yn edrych yn fanwl ar y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ledled Cymru a'r DU a nodir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bob haf, a ddangosodd y cynnydd mwyaf erioed eleni.
Meddai Rick Lines, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, yn enwedig marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon gan gynnwys opiadau a chocên, yn ogystal â meddyginiaethau presgripsiwn a gafwyd drwy lwybrau anfeddygol yn cyflwyno heriau gwirioneddol o ran atal marwolaethau.
“Dros y pum mlynedd diwethaf, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chocên wedi mwy na dyblu. Pryder arall hefyd yw'r cynnydd mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig â bensodiasepinau, sef dosbarth o gyffuriau tawelu gan gynnwys diazepam (a elwir fel arfer yn “faliwm”) naill ai wedi'u ragnodi neu a gafwyd yn anghyfreithlon, sydd hefyd wedi mwy na dyblu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
“Mae modd atal marwolaethau cyn pryd oherwydd defnyddio cyffuriau. Mae pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn cael effaith sylweddol a hirhoedlog ar deulu, cyfoedion a chymunedau'r unigolyn. Er bod effaith marwolaethau oherwydd cyffuriau yn cael ei phrofi gan y sbectrwm economaidd-gymdeithasol cyfan, maent dros bum gwaith yn fwy tebygol o ddigwydd yn y rhai sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o gymharu â'r lleiaf difreintiedig.
“Mae Cymru'n gweithredu nifer o fentrau effeithiol gyda'r nod o atal neu leihau marwolaethau oherwydd cyffuriau, gan gynnwys y rhaglen genedlaethol Naloxone i'w Ddefnyddio Gartref a mynediad at driniaeth camddefnyddio sylweddau arbenigol. Yn y flwyddyn ddiwethaf, cafodd Naloxone ei ddefnyddio mewn 288 o achosion o orddos, gyda dim ond 3 marwolaethau wedi'u nodi.
“Fodd bynnag, yn sgil graddfa marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru, mae angen tystiolaeth ar effaith a dylanwad polisïau ac arferion ar lefelau gwahanol a'u rôl fel rhwystrau neu hwyluswyr i leihau marwolaethau oherwydd cyffuriau, er mwyn llywio newid.”
Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:
Mae Cronfa Ddata Lleihau Niwed Cymru: Marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, Adroddiad Blynyddol 2021-22 yn mynd at wraidd data ONS a data o gronfa ddata Lleihau Niwed Cymru ar adolygiadau gwenwyn cyffuriau angheuol a'r rhai nad ydynt yn angheuol. Mae'r gronfa ddata wedi'i chynllunio i gefnogi iechyd, gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol a darparwyr gwasanaethau cysylltiedig, cynllunwyr, comisiynwyr a gwneuthurwyr polisi i leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn paratoi adroddiadau a gwybodaeth i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau ei fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau i ddiogelu a gwella iechyd.
Gall y rhai sy'n ceisio cymorth ar gyfer pryderon sy'n ymwneud â chyffuriau neu alcohol gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar radffon 0808 808 2234, drwy decstio DAN i: 81066 neu drwy fynd i dan247.org.uk