Neidio i'r prif gynnwy

Marwolaethau canser cyffredinol yn gostwng yn ystod y pandemig, ond anghydraddoldebau'n ehangu ar gyfer rhai mathau o ganser

Cyhoeddyd: Dydd Mercher 16 Mawrth 2022

Mae cyhoeddiad newydd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod y gostyngiad hirdymor yn y gyfradd marwolaethau oherwydd canser wedi cyflymu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae'r cyhoeddiad, Marwolaethau Canser yng Nghymru 2002-2021, yn dangos er bod y gostyngiad hirdymor mewn marwolaethau canser cyffredinol – y gyfradd y mae pobl yn marw o ganser - wedi dechrau arafu, yn 2019 a 2020 roedd y gostyngiad hwnnw wedi dwysáu, gyda gostyngiad sydyn pellach i 2021.  Canser yw un o brif achosion marwolaeth yng Nghymru o hyd.

Roedd y bwlch yn y gyfradd gyffredinol marwolaethau oherwydd canser rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yn ehangach yn ystod y degawd diwethaf o gymharu â'r un blaenorol, gan godi o 40 y cant yn uwch yn 2002, i bron 55 y cant yn uwch yn 2021. Fodd bynnag, ar y cyfan, nid oedd y bwlch wedi newid yn ystod y pandemig.

Meddai'r Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr WCISU: “Er ei bod yn galonogol gweld nad yw'r bwlch yn y cyfraddau marwolaethau oherwydd canser yn ei gyfanrwydd rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diweddaraf – gan gynnwys yn ystod y pandemig – mae'n destun pryder nad yw'r bwlch wedi lleihau dros y degawd diwethaf.

“Byddai'r gyfradd marwolaethau canser a ostyngodd yn gyflym yn ystod pandemig Covid-19 fel arfer i'w chroesawu'n fawr, ond mae angen i ni ddehongli effaith y pandemig yn ofalus. 

“Ymhlith yr esboniadau posibl yw efallai na fydd gwybodaeth am farwolaethau ar ddiwedd 2021 wedi'i chwblhau tan yn ddiweddarach yn 2022.  Hefyd, mae'n bosibl bod pobl â chanser heb ei ganfod, neu â chanser a gafodd ddiagnosis yn ystod neu cyn y pandemig, wedi marw o gyflyrau iechyd eraill yn ystod y pandemig, gan gynnwys o Covid-19, yn hytrach na chanser.

“Mae ymchwil fanwl bellach yn mynd rhagddi yng Nghymru, o dan arweiniad Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru gyda llawer o sefydliadau partner, er mwyn deall y tueddiadau diweddar mewn marwolaethau oherwydd canser yn ystod pandemig Covid-19.”

Ychwanegodd yr Athro Huws: “Roedd anghydraddoldebau cynyddol o ran canser y fron mewn menywod bron â diflannu yn ystod y pandemig, ar ôl cyrraedd uchafbwynt yn 2019 - gyda’r gyfradd bryd hynny 50 y cant yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o'i chymharu â'r lleiaf difreintiedig. Yn ystod y pandemig, i ddechrau cynyddodd y gyfradd marwolaethau o ganser y fron mewn menywod yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a gostwng yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

“O'r pedwar canser mwyaf cyffredin, mae'r anghydraddoldebau marwolaethau ehangaf o ganser yr ysgyfaint. Ehangodd y bwlch amddifadedd hyd at 2017, cyn lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys yn ystod y pandemig. Ond roedd y gyfradd marwolaethau yn dal i fod 240 y cant yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu ag ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru yn 2021.

“Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, roedd anghydraddoldebau mewn marwolaethau canser y colon a'r rhefr (coluddyn) wedi cynyddu'n gyflym yn ystod y pandemig - o wahaniaeth o 30 y cant rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn 2019, i 80 y cant erbyn 2021.

“Roedd gwahaniaethau o ran amddifadedd ardal mewn marwolaethau canser y prostad yn fach ac yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn y degawd yn arwain at y pandemig, ond erbyn 2021, roedd y gyfradd 40 y cant yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r lleiaf difreintiedig.

“Mae marwolaethau canser cyffredinol wedi gostwng 19 y cant yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf hyd at 2021. Mae'r gostyngiad ar ei uchaf mewn dynion, sef dros 20 y cant, gyda menywod yn gweld gostyngiad arafach, sef tua 14 y cant.

“Gwnaethom gymharu ein hystadegau â marwolaethau oherwydd canser ar draws y DU o 2002 ymlaen, a chafwyd bod y gyfradd gyffredinol marwolaethau oherwydd canser yng Nghymru wedi bod yn uwch ar y cyfan nag yng Ngogledd Iwerddon, ac yn gyson uwch nag yn Lloegr. Marwolaethau oherwydd canser yn yr Alban oedd yr uchaf o hyd drwy gydol yr un cyfnod.”

Mae canfyddiadau eraill yn dangos bod canser yr ysgyfaint, y prostad, y fron mewn menywod a chanser y colon a'r rhefr yn cyfrif am fwy na hanner yr 8,795 o farwolaethau oherwydd canser yn 2021.  Mae canser yr ysgyfaint yn cyfrif am ddwy o bob 10 o farwolaethau o ganser, ac mae oedran yn ffactor risg sylweddol ar gyfer marwolaethau canser gyda 70 y cant o'r holl farwolaethau oherwydd canser yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn digwydd yn y rhai dros 70 oed.

Adroddiad

Marwolaethau Canser yng Nghymru 2002-2021