Neidio i'r prif gynnwy

Manteisiwch ar y cynnig i gael brechlyn atgyfnerthu Covid, ymhlith arwyddion o don bosibl yn yr hydref.

Cyhoeddwyd: 21 Hydref 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl mewn grwpiau cymwys i fanteisio ar y cynnig o frechlyn atgyfnerthu Covid-19.  Daw'r rhybudd wrth i drosglwyddo cymunedol, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau o Covid-19 gynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf – arwyddion cynnar o don bosibl yn yr hydref.

Mae menywod beichiog, pobl 50 oed a throsodd, y rhai sydd â chyflwr iechyd hirdymor, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen ymhlith y rhai sy'n gymwys i gael y brechlyn Covid-19 am ddim, diogel ac effeithiol. 

Mae’n bwysig bod y bobl hynny sy'n gymwys yn cadw llygad am eu gwahoddiad brechlyn. Caiff ei anfon atynt drwy'r post gan eu bwrdd iechyd lleol. Fe'u cynghorir yn gryf i fanteisio ar y cynnig, a blaenoriaethu eu hapwyntiad lle y bo'n bosibl. 

Yr wythnos diwethaf, dewisodd 100,000 o bobl yng Nghymru i amddiffyn eu hunain drwy gael eu pigiad atgyfnerthu Covid-19 pan gawsant eu gwahodd. Fodd bynnag, mae pobl o hyd nad ydynt wedi mynd i'w hapwyntiad brechlyn neu sydd wedi ei ohirio. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog y bobl hynny i flaenoriaethu cael eu brechlyn. 

Y brechlyn Covid yw'r ffordd fwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o Covid-19. Mae amddiffyniad o frechiadau Covid-19 blaenorol yn lleihau dros amser ac felly mae'n bwysig bod pobl yn cael eu brechiad pan fyddant yn cael eu gwahodd.

Meddai Dr Christopher Johnson, Pennaeth Dros Dro'r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Er ei bod yn rhy gynnar i ddweud yn bendant, rydym ar hyn o bryd yn gweld arwyddion cynnar o don yr hydref o Covid-19.  Er bod cyfran yr heintiau difrifol yn llawer is o'i gymharu â chyfnodau eraill y pandemig, mae'r patrwm hwn yn dal i beri pryder. 

“Er ein bod i gyd wedi dod i arfer â byw gyda Covid, ac er bod brechu ac imiwnedd cyffredinol y boblogaeth yn helpu i gadw salwch difrifol i ffwrdd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, mae'n bwysig nad ydym yn mynd yn hunanfodlon.  

“Gall pawb sy'n gymwys i gael y brechlyn atgyfnerthu wneud cyfraniad sylweddol at arafu trosglwyddiad Covid, gan amddiffyn eu hunain, eu cymuned a'r GIG, drwy fanteisio ar y cynnig i gael brechlyn.  Hyd yn oed os yw pobl yn brysur neu os oes ganddynt gynlluniau eraill, mae'n bwysig blaenoriaethu cael eich pigiad atgyfnerthu pan ddaw eich llythyr apwyntiad. Mae hefyd yn hanfodol bod y rhai sy'n gymwys yn manteisio ar y cynnig i gael brechlyn ffliw, er mwyn helpu i amddiffyn eu hunain ac eraill y gaeaf hwn.”