Cyhoeddwyd: 26 Tachwedd 2021
Mae Asesiad o'r Effaith ar Iechyd newydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y mae pandemig y Coronafeirws wedi dangos bod cael cartref saff, diogel yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd, llesiant a thegwch, a'r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau mai dyma'r realiti i'r rhan fwyaf o bobl.
Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pandemig COVID-19, a mesurau i leihau trosglwyddo'r feirws, wedi cael llawer o effeithiau eang ar boblogaeth Cymru, ac wedi arwain at lawer o bobl yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi, gan dynnu sylw at bwysigrwydd tai o ansawdd da, fforddiadwy a diogel.
“Mae'r angen am ddiogelwch mewn perthynas â chael a chadw cartref a chael eich amgylchynu gan amgylchedd cartref diogel a chyson, ac effaith hyn ar iechyd a llesiant corfforol a meddyliol wedi'i gydnabod ers tro. Yn ystod cyfnodau o ansicrwydd, fel yn ystod pandemig COVID-19, gall cartref roi sylfaen ddiogel a sefydlog i unigolion ac aelwydydd er mwyn eu helpu i fyw a gweithio drwy'r pandemig a'i effeithiau ac adfer ohono yn y pen draw.
“Mae rhaglenni cymorth lles a thai cenedlaethol wedi'u cyflwyno mewn ymateb i'r pandemig ac maent yn cynnwys amrywiaeth eang o fesurau i gefnogi perchnogion cartrefi a thenantiaid ac atal digartrefedd, ond mae'r rhain bellach yn dod i ben.
“Gall y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn gynorthwyo'r rhai sy'n llunio polisïau ac sy'n gwneud penderfyniadau a'r trydydd sector ehangach wrth ystyried effaith y pandemig ar dai ac ansicrwydd tai, er mwyn lleihau anghydraddoldebau posibl ac effeithiau negyddol, a sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl ar gyfer iechyd a llesiant cadarnhaol.”
Dyma ganfyddiadau allweddol yr adroddiad:
Meddai Matthew Kennedy o'r Sefydliad Tai Siartredig:
“Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn dangos yr effaith amlwg a gwrthgyferbyniol y mae amgylchiadau tai pobl wedi'i chael ar eu profiadau yn ystod y pandemig. Mae'n amlwg bod mynediad at gartref diogel, fforddiadwy lle nad oes fawr ddim ansicrwydd am allu rhywun i aros yn y cartref hwnnw dros y tymor hwy wedi bod yn ffactor enfawr o ran helpu pobl i ymdopi ag amodau'r pandemig. I'r rhai heb gartref, efallai fod byw mewn amgylchedd cartrefi peryglus neu y mae eu hamgylchiadau tai eisoes wedi bod yn ansicr - mae'n debygol bod profiad y pandemig wedi gwaethygu problemau ymhellach, gan greu hyd yn oed mwy o anghydraddoldeb.
“Mae'r gwaith hwn yn atgyfnerthu'r angen i gael gwasanaethau cymorth gydag adnoddau da, hygyrch i fynd i'r afael yn uniongyrchol ag unrhyw gynnydd yn y galw sy'n deillio o'r pandemig. Yn fwy cyffredinol, mae'n codi'r effaith y gallai meddu ar well dealltwriaeth o sut y mae pobl yn teimlo am eu cartref, a'u hamgylchiadau tai parhaus ei chael ar lesiant pobl a'u gallu cyffredinol i fyw ansawdd bywyd dymunol.”
Mae ‘Does unman yn debyg i gartref? Trafod effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai ac ansicrwydd tai Adroddiad Cryno’ yn trafod effaith iechyd a llesiant Coronafeirws ar dai ac ansicrwydd tai, ac mae'n ystyried pwysigrwydd cael cartref cyson sydd o ansawdd da, yn fforddiadwy, ac yn teimlo'n ddiogel. Mae hefyd yn ystyried diogelwch deiliadaeth mewn perthynas â sefydlogrwydd, a gallu cynnal to dros eich pen ac atal digartrefedd yn y pen draw. Dyma'r trydydd mewn cyfres, sy'n canolbwyntio ar effaith iechyd a thegwch pandemig y Coronafeirws ar boblogaeth Cymru gan gynnwys ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ ac effaith gweithio gartref ac ystwyth. Gellir darllen yr adroddiad hwn ar y cyd â'r rhain a'r adrannau ar dai a gweithio gartref ynddynt.
Gall y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn a'r asesiadau o'r effaith ar iechyd blaenorol, gynorthwyo'r rhai sy'n llunio polisïau a phenderfyniadau wrth ystyried effaith y pandemig ar dai ac ansicrwydd tai, er mwyn lleihau anghydraddoldebau posibl ac effeithiau negyddol, a sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl ar gyfer iechyd a llesiant cadarnhaol.