Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwahaniaethau o ran canlyniadau beichiogrwydd yn 'annheg'

Cyhoeddwyd: 6 Hydref 2022

Mae arbenigwyr gwella iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Fuse, y Ganolfan Ymchwil Drosi mewn Iechyd Cyhoeddus, wedi tynnu sylw at wahaniaethau annheg mewn canlyniadau beichiogrwydd a'r rôl hanfodol y mae gwasanaethau mamolaeth yn ei chwarae wrth nodi ac addasu dulliau ar gyfer y rhieni hynny mewn grwpiau risg uwch.  

Edrychodd yr ymchwil ar 35 o astudiaethau a thros 17 miliwn o feichiogrwydd yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon ac mae'n dangos bod pobl mewn galwedigaethau â chyflogau is â siawns 40 y cant yn uwch y bydd y beichiogrwydd yn arwain at y babi'n marw, yn cael ei eni'n rhy gynnar neu'n cael ei eni â phwysau geni isel, o gymharu â phobl mewn galwedigaethau â chyflog uwch. 

Meddai Amy McNaughton, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn gwybod bod beichiogrwydd iach yn bwysig:  nid dim ond ar gyfer genedigaeth ddiogel ac iach ond hefyd er mwyn helpu i roi gwell iechyd, llesiant a chyfleoedd bywyd i blant wrth iddynt dyfu i fyny. 

““Ni fydd targedu'r rhai mwyaf difreintiedig yn unig yn lleihau anghydraddoldebau. Er mwyn lleihau anghydraddoldebau yn effeithiol, mae angen gwasanaethau cyffredinol gwych arnom sy'n gallu nodi teuluoedd sy'n wynebu risg uwch a rhoi'r cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.” 

“Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd mamolaeth, yn enwedig bydwragedd, eisoes yn gwneud gwaith gwych wrth gefnogi rhieni drwy eu beichiogrwydd a nhw yw'r rhai sy'n dod i'w hadnabod nhw a'u hanghenion orau. 

“Mae hyn yn eu rhoi yn y sefyllfa berffaith i allu nodi, ar y cam cynharaf, y teuluoedd y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt, ac ystyried sut y gallai gofal gael ei addasu i ddiwallu anghenion y teuluoedd hyn yn well fel y gallant gymryd mwy o ran mewn penderfyniadau am eu gofal. 

Meddai Dr Nicola Heslehurst, Cyd-arweinydd Rhaglen Bywyd Cynnar a'r Glasoed Fuse: “Mae atal canlyniadau beichiogrwydd andwyol yn gam hanfodol o ran torri'r cylch o anghydraddoldebau rhwng y cenedlaethau.  

“Mae'r dystiolaeth yn dangos i ni bwysigrwydd amddifadedd unigol ac ar lefel aelwyd a'r angen am ymyriadau iechyd cyhoeddus a mamolaeth a pholisïau i gefnogi teuluoedd ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol”.   

Mae negeseuon allweddol eraill yn cynnwys: 

  • Mae cysylltiad clir rhwng cyflogaeth a chanlyniadau beichiogrwydd. Mae'n dylanwadu ar ganlyniadau beichiogrwydd mewn nifer o ffyrdd – amgylchedd ffisegol, ymdrech a straen, incwm, amser, mynediad at wasanaethau a rhwydweithiau cymorth. 

  • Mae'r math o gyflogaeth sydd gan bobl yn ei dro yn cael ei ddylanwadu gan eu haddysg a'u cefndir cymdeithasol.  

  • Mae teuluoedd difreintiedig yn fwy tebygol na theuluoedd cefnog o gael problemau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth.  

  • Mae angen gwell data i ddeall yn fanylach sut y mae mathau eraill o anfantais, gan gynnwys addysg, iechyd a thai yn dylanwadu ar ganlyniadau beichiogrwydd. 

  • Mae ymddygiad yn cael ei ddylanwadu gan ffactorau ehangach - llawer ohonynt y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol yr unigolyn. 

Meddai Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio a Chyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru:  

“Mae'r gwaith partneriaeth pwysig hwn rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a FUSE yn tynnu sylw at yr angen i ymgorffori dulliau mewn gofal mamolaeth sy'n mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd, i roi'r cyfle gorau i fenywod a theuluoedd o gael beichiogrwydd a babi iach a lleihau anghydraddoldebau iechyd sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd yn y boblogaeth gyffredinol. Mae Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod anghydraddoldebau iechyd yn cael eu deall, gan weithio gyda'n gilydd i sicrhau canlyniadau gwell, cyfartal i bob teulu.  Mae hyn yn sail i'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo gyda'r weledigaeth ar gyfer mamolaeth yn y dyfodol, y rhaglen cymorth mamolaeth a newyddenedigol, cynllunio'r gweithlu yn y dyfodol a mamolaeth ddigidol Cymru i ddarparu gwasanaethau, systemau a data sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau i deuluoedd.” 

 ‘Dechrau teg mewn bywyd: Beth sy'n ysgogi anghydraddoldebau o ran canlyniadau beichiogrwydd?’ yw'r cyntaf mewn cyfres o waith sy'n ceisio cynyddu canlyniadau beichiogrwydd gorau posibl.  

Mae podlediad fuse-health-inequalities-in-pregnancy-with-dr-nicola-heslehurst-and-amy-mcnaughton/ wedi'i greu hefyd lle mae awduron yr adroddiad yn esbonio hanfod hyn, a gellir dod o hyd i'r ymchwil gyhoeddedig yma; Sut y mae anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar iechyd yn ystod beichiogrwydd?