Cyhoeddwyd: 4 Mehefin 2025
Mae arolwg newydd wedi canfod bod 80 y cant o bobl Cymru yn credu y dylai gwasanaethau gofal sylfaenol (e.e. fferyllfeydd cymunedol, optometryddion, deintyddion a phractisiau meddygon teulu) fod â rôl i'w chwarae i gefnogi pobl â phroblemau bob dydd fel deiet, tai a chadw'n gorfforol egnïol.
Yn ôl arolwg diweddaraf Amser i Siarad am Iechyd y Cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 74 y cant o’r bobl yn credu bod gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyfrifoldeb mawr i ofyn i gleifion am anghenion anfeddygol (e.e. problemau gyda thai, peidio â chael digon o fwyd neu ddiweithdra), a allai fod yn effeithio ar eu hiechyd. Yn ogystal â hyn, mae 80 y cant yn credu bod cyfrifoldeb ar y gwasanaethau gofal sylfaenol i atgyfeirio pobl at y gwasanaethau lleol a all gynnig cymorth anfeddygol iddynt (e.e. banciau bwyd ac elusennau tai) pan fo angen.
Mae'r canlyniadau'n dangos bod pobl Cymru yn cydnabod bod eu hamgylchiadau ehangach yn dylanwadu ar eu hiechyd ac yn teimlo ei bod yn dderbyniol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ofyn iddynt.
Canfu’r arolwg y canlynol hefyd:
Mae pobl hefyd yn gwerthfawrogi hyblygrwydd a chysondeb wrth gael mynediad at ofal iechyd. Pe byddai unigolion â nifer o bryderon iechyd,, dywedodd 60 y cant o’r bobl y byddent yn hapus i aros yn hirach am apwyntiad gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn practis meddygon teulu pe byddai'n golygu y gallent siarad am fwy nag un mater ar yr un pryd. Hefyd, pe byddent yn gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn practis meddygon teulu ar gyfer cyflwr iechyd presennol, dywedodd 57 y cant y byddai'n bwysicach cael eu gweld gan yr un gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nag y byddai cael eu gweld yn gyflym (20 y cant).
Dywedodd Dr Kerry Bailey, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Arweinydd Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd, Adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Fel meddyg teulu sy’n ymarfer, rwy’n gwybod y gallai rhai o’r ymatebion hyn greu trafodaeth, ond mae’r arolwg hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl Cymru eisiau gwasanaethau gofal iechyd teg. Maen nhw’n cydnabod bod y lleoedd yr ydyn ni'n byw a’r amodau rydyn ni’n gweithio ynddynt hefyd yn effeithio ar ein hiechyd. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl o blaid rhoi rôl i'r gwasanaethau gofal iechyd o ran siarad â ni am yr agweddau hyn.”