Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymchwiliadau'n parhau yn dilyn tri achos ychwanegol o TB ar ôl marwolaeth myfyriwr o Lanbedr Pont Steffan ym mis Hydref 2021

Cyhoeddwyd: 17 Mehefin 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyngor Sir Ceredigion yn ymchwilio i dri achos o dwbercwlosis (TB) gweithredol mewn unigolion a oedd yn gysylltiadau agos person a fu farw gyda'r clefyd y llynedd yn anffodus.

Ar ôl marwolaeth drist myfyriwr a oedd yn byw ar gampws Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Hydref 2021, cafodd cysylltiadau agos yr unigolyn eu nodi a'u sgrinio ar gyfer TB.

Ers hynny, mae tri chyswllt agos y person a fu farw wedi cael diagnosis o TB gweithredol, ac maent yn cael triniaeth briodol.  

Mae'r Tîm Rheoli Achosion amlasiantaeth wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gadarnhau cysylltiadau'r rhai yr effeithir arnynt, ac i ddarparu sgrinio TB.  Mae'r risg i gymuned y brifysgol, ac i drigolion lleol, yn isel iawn.  

Meddai Dr Brendan Mason, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru:  “Yn dilyn gweithdrefnau sefydledig i reoli achosion, rydym wedi nodi unigolion sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â'r person a fu farw.  Cysylltwyd â'r cysylltiadau agos hyn a'u sgrinio ar gyfer TB, a chanfuwyd bod gan dri ohonynt TB gweithredol.

“Mae ein hymchwiliadau wedi dangos bod gan y tri unigolyn sydd â TB gweithredol gysylltiad agos â'r person a fu farw ym mis Hydref 2021. Mae'n anodd trosglwyddo TB. Mae angen cysylltiad agos a hir ag unigolyn heintus, er mwyn i berson gael ei heintio. Felly, gellir rhoi sicrwydd i gymuned y brifysgol a thrigolion lleol bod y risg i'r cyhoedd yn isel iawn.

“Rydym wedi nodi holl gysylltiadau agos y person a fu farw ac maent yn cael y sgrinio TB a'r gweithredu dilynol angenrheidiol. Mae gwaith yn parhau i nodi cysylltiadau agos y tri achos o TB gweithredol, a bydd pob un ohonynt yn cael ei wahodd i gael sgrinio TB gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

“Fodd bynnag, rydym yn annog pawb i fod yn ymwybodol o symptomau TB.  Os oes gennych symptomau, rydym yn eich cynghori i siarad â'ch meddyg teulu, a all roi'r cyngor priodol i chi a'ch atgyfeirio i gael sgrinio TB os oes angen.” 

Mae symptomau TB gweithredol yn cynnwys:

  • Peswch parhaus sy'n para am fwy na thair wythnos ac sydd fel arfer yn creu fflem, a all fod yn waedlyd
  • Colli pwysau
  • Chwysu yn ystod y nos
  • Tymheredd uchel (twymyn)
  • Blinder
  • Colli archwaeth
  • Chwyddo yn y gwddf 

Ceir rhagor o wybodaeth am dwbercwlosis o wefan GIG 111 Cymru yn:  Twbercwlosis