Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymchwiliadau'n parhau yn dilyn achos wedi'i gadarnhau o TB yn Ysgol Gyfun Coed-duon.

Cyhoeddwyd: 20 Ionawr 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymchwilio i un achos o dwbercwlosis (TB) mewn unigolyn sy'n gysylltiedig ag Ysgol Gyfun Coed-duon.

Fel rhagofal, bydd yr holl ddisgyblion ac athrawon a gafodd gysylltiad â'r unigolyn yn cael cynnig sgrinio ar gyfer TB. Nid oes unrhyw beth i awgrymu bod yr achos wedi dal TB yn yr ysgol, yn hytrach maent wedi mynychu'r eiddo pan oedd ganddynt yr haint yn ddiarwybod iddynt. Nid oes achos wedi'i ddatgan.

Meddai Lika Nehaul, Ymgynghorydd Meddygol Locwm mewn Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a chadeirydd y tîm rheoli digwyddiad amlasiantaeth:
“Yn dilyn gweithdrefnau rheoli haint sefydledig, rydym wedi nodi unigolion a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r unigolyn dan sylw, cysylltwyd â'r unigolion hyn a chynnig sgrinio ar gyfer TB iddynt y gellir ei drin yn hawdd gyda chwrs o wrthfiotigau. Mae meddygon teulu lleol wedi cael gwybod. 

“Mae hon y broses arferol, ac os caiff heintiau TB positif eraill eu nodi o ganlyniad i hyn, bydd triniaeth briodol yn cael ei chynnig. 

“Mae'n anodd trosglwyddo TB. Mae angen cysylltiad agos a hir ag unigolyn heintus, er mwyn i berson gael ei heintio. Yn yr achos hwn, ac i gyfyngu ar ledaeniad posibl yr haint, rydym yn trin yr holl ddisgyblion ac athrawon a allai fod wedi cael cyswllt â'r unigolyn fel cysylltiadau personol agos.

“Byddwn yn pwysleisio bod y risg o haint â TB i'r cyhoedd yn parhau'n isel iawn. Fodd bynnag, rydym yn annog rhieni, disgyblion ac aelodau o staff i fod yn ymwybodol o'r symptomau.” 

Mae symptomau TB gweithredol yn cynnwys:

  • Peswch parhaus sy'n para am fwy na thair wythnos ac sydd fel arfer yn creu fflem, a all fod yn waedlyd
  • Colli pwysau
  • Chwysu yn ystod y nos
  • Tymheredd uchel (twymyn)
  • Blinder
  • Colli archwaeth
  • Chwyddo yn y gwddf 

Os oes unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r ysgol wedi profi unrhyw rai o'r symptomau hyn neu'n pryderu am eu hiechyd, dylent siarad â'u meddyg teulu, neu ffonio Tîm Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 0300 00 300 32 (rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Ceir rhagor o wybodaeth am dwbercwlosis o wefan GIG 111 Cymru yn: https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/t/article/tuberculosis/?locale=cy