Cyhoeddig: 9 Tachwedd 2023
Mae tîm o ymchwilwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu llawlyfr i arwain gweithwyr proffesiynol a sefydliadau ar sut i weithredu gwaith i atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE). Gan gydweithio â Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd a Phrifysgol Lerpwl John Moores gwnaethant ddatblygu'r canllaw i helpu gweithwyr proffesiynol i weithredu er mwyn meithrin cadernid mewn plant, a datblygu sefydliadau, sectorau a systemau sy'n cael eu llywio gan drawma.
Mae ACE yn cynnwys camarfer plant (fel cam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol) a phrofiadau eraill llawn straen o fewn 18 mlynedd gyntaf bywyd, fel dod i gysylltiad â thrais teuluol a thrais gan bartner agos neu gam-drin sylweddau gan rieni a'r rhai sy'n rhoi gofal. Mae gan y profiadau hyn y potensial i newid ymennydd a systemau biolegol sy'n datblygu ymhlith plant a gall gael effeithiau niweidiol ar draws y cwrs bywyd. Felly, mae mynd i'r afael ag ACE a lleihau'r baich ar unigolion, teuluoedd a'r gymdeithas ehangach yn hanfodol.
Mae'r llawlyfr yn dwyn ynghyd dystiolaeth, adnoddau ac astudiaethau achos o bob rhan o Ewrop ac yn rhyngwladol. Yn ogystal â thynnu sylw at strategaethau a gwybodaeth am atal ACE, meithrin cydnerthedd a datblygu systemau sy'n cael eu llywio gan drawma, mae'n cyflwyno cyfres o gamau y gellir eu defnyddio i roi strategaethau ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys:
Asesu'r sefyllfa bresennol a chasglu data
Codi ymwybyddiaeth, cael ymrwymiad, ac eirioli dros newid
Datblygu gweithio mewn partneriaeth
Dewis, addasu, neu ddatblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac adnoddau
Darparu hyfforddiant, cymorth, a diwylliant ar gyfer newid
Gwerthuso camau gweithredu,
Cynyddu, sefydlu, a chynnal camau gweithredu effeithiol.
Mae astudiaethau achos o bob rhan o'r byd, gan gynnwys Cymru, Montenegro, y Ffindir ac Iwerddon yn darparu enghreifftiau o sut y mae'r camau hyn wedi'u gweithredu'n ymarferol.
Gall ACE gael effaith gorfforol a seicolegol uniongyrchol ar blentyn, ond gall hefyd gynyddu'r risg o broblemau ymddygiadol, iechyd a chymdeithasol hwyrach sy'n effeithio ar unigolion, cymunedau, cymdeithasau, ac iechyd a gwasanaethau eraill. Mae'r llawlyfr yn pwysleisio pwysigrwydd sefydliadau yn cydweithio i ddeall sut y gallant weithredu i atal ACE rhag digwydd a meithrin cydnerthedd pobl i leihau eu heffeithiau.
Meddai ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sara Wood “Gwerth ein llawlyfr yw helpu gweithwyr proffesiynol i symud o wybodaeth am ACE i weithredu. Drwy ddod ag adnoddau presennol ynghyd mewn un lle a chynnwys profiadau bywyd go iawn arbenigwyr sy'n ymwneud â'r gweithredu, rydym yn gobeithio bod y llawlyfr yn cynnig ysbrydoliaeth ac arweiniad i'r rhai sy'n gweithio yn y maes.”
Fydd gweminar i lansio'r llawlyfr ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd am 9.30-11.00 GMT, neu 10.30-12.00 CEST. I gofrestru cliciwch yma.