Cyhoeddwyd: 4 Awst 2022
Mae Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru yn grŵp strategol yn GIG Cymru sy'n cynnwys aelodau o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, y Tîm Diogelu Cenedlaethol a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Mewn adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw, mae'r rhwydwaith yn nodi'r gwaith gwerthfawr y mae'n ei wneud i weithredu fel adnodd hollbwysig wrth gadw plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn ddiogel ledled Cymru.
Mae'r Tîm Diogelu Cenedlaethol, a leolir yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydlynu'r Rhwydwaith ac yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i wella'n barhaus y gwaith o ddiogelu grwpiau agored i niwed fel plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ar draws GIG Cymru drwy gysylltu pobl, dysgu ac adnoddau.
Mae Adroddiad Blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru 2020-21 yn rhannu'r ffyrdd y mae'r Rhwydwaith wedi defnyddio dull ystwyth drwy gydol pandemig y Coronafeirws i barhau i gydweithio i gyflawni ‘Cymru lle mae pawb yn ddiogel’. Mae’r adroddiad yn ymhelaethu ar yr eitemau cyflawnadwy a gyflawnwyd yn 2021-22 drwy gydweithio ar draws y Rhwydwaith a gweithredu ffyrdd newydd o weithio.
Meddai Dr Aideen Naughton, Arweinydd Gwasanaeth y Tîm Diogelu Cenedlaethol, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae diogelu o fewn pandemig byd-eang wedi newid a llunio GIG Cymru mewn ffyrdd na ellid fod wedi eu rhagweld. Wrth i ni ddechrau byw gyda COVID-19, mae ymarferwyr diogelu yn cael budd o arfer arloesol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig wrth gadw meddylfryd ystwyth ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau wrth i'r byd o'n cwmpas barhau i gyflwyno pwysau a galwadau newydd.
“Bydd effeithiau cronnus Brexit, coronafeirws a newid hinsawdd - yr ‘Her Driphlyg’ - yn cael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar y boblogaeth gan roi mewnwelediadau y mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohonynt ar gyfer arfer diogelu yn y dyfodol. Mae ein hadrannau blaengynllunio a sganio'r gorwel yn dangos sut y mae'r Rhwydwaith yn paratoi ar gyfer heriau sy'n dod i'r amlwg; yn ymwybodol y bydd angen i ni edrych ymlaen ac ar yr un pryd adeiladu ar y cydnerthedd a'r sylfaen wybodaeth o'r cyfnod diwethaf.”
Ymhlith y meysydd adrodd allweddol mae: