Cyhoeddwyd: 28 Gorffennaf 2022
Mae canfyddiadau o adroddiad newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at effaith andwyol pandemig y Coronafeirws ar iechyd meddwl a llesiant nyrsys a bydwragedd yng Nghymru.
Gwnaeth 2,880 o nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd ledled Cymru ymateb i arolwg ar-lein yn 2021, gan rannu eu myfyrdodau ar effaith y pandemig ar eu hiechyd a'u llesiant.
Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae:
o Straen, pryder ac iselder, a chyflyrau cyhyrsgerbydol oedd y prif resymau a nodwyd dros fynd i'r gwaith pan oeddent yn sâl.
o Nyrsys newydd gymhwyso, nyrsys canol gyrfa a gweithwyr cymorth gofal iechyd oedd y grwpiau proffesiynol a ddywedodd eu bod yn mynychu'r gwaith yn aml pan oeddent yn sâl.
Meddai Benjamin Gray, Uwch-ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdur arweiniol yr adroddiad:
“Dyma un o'r arolygon mwyaf ymhlith gweithlu allweddol yn GIG Cymru – a diolch i bawb a gymerodd ran. Er ein bod yn cydnabod efallai nad yw'r rhai a ymatebodd yn cynrychioli'r proffesiwn ehangach, mae'r canfyddiadau'n gyson â thystiolaeth ehangach o bob rhan o'r DU. Mae angen deall effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol tymor hwy ymateb i COVID-19 ar iechyd corfforol a meddyliol er mwyn cyfeirio cymorth.”
Meddai Rhiannon Beaumont Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Perthynol, Tîm Gweithredol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'r lefelau iechyd meddwl gwael a nodwyd ymhlith y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yn bryder, yng nghyd-destun yr ymateb COVID-19 presennol ac ar iechyd a llesiant y gweithlu yn ehangach, a allai yn ei dro effeithio ar recriwtio a chadw yn y tymor hwy. Felly, dylai iechyd meddwl barhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer unrhyw strategaethau iechyd a llesiant y gweithlu.”
Meddai Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru:
“Mae sicrhau bod gennym gynnig iechyd a llesiant wedi'i dargedu a chyson i'n gweithlu yng Nghymru yn hanfodol bwysig. Rwyf am i'r holl staff deimlo eu bod wedi'u grymuso i ofyn am help a chymorth i'w hunain ac i'w gilydd yn ôl yr angen. Rydym yn cydnabod bod sefydliadau sy'n blaenoriaethu llesiant staff yn gweld lefelau uwch o foddhad staff a chleifion yn ogystal â gallu cadw'r gweithlu sydd ei angen yn well i fodloni gofynion gwasanaeth ar gyfer nawr a gofynion yn y dyfodol. Diolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru am gynnal yr arolwg gwerthfawr hwn.”
Cafodd ‘Iechyd a llesiant y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19’ ei baratoi gan ddefnyddio 2,880 o ymatebion i arolwg ar-lein cenedlaethol ymhlith nyrsys/bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd cofrestredig a myfyrwyr yng Nghymru. Wrth ystyried pwysau gwasanaeth. Roedd yr arolwg ar agor rhwng 21 Mehefin a 9 Awst 2021 ac ar adeg pan oedd pwysau Coronafeirws ar y GIG ar ei isaf mewn 12 mis ac roedd Cymru yn dechrau symud i gam rhybudd un.
Gwnaeth yr holiadur goladu data ar ddemograffeg, gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gwaith (rôl, cyflog a ffactorau amgylcheddol) ac iechyd a llesiant gan ymatebwyr.