Neidio i'r prif gynnwy

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn recriwtio dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd.

Mae Cyfarwyddwyr Anweithredol yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwyr Gweithredol fel rhan o fwrdd unedol i ddatblygu cyfeiriad strategol, sicrhau atebolrwydd a ffurfio diwylliant sefydliadol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Maent hefyd yn cyfrannu’n weithredol at agenda Iechyd Cyhoeddus Cymru trwy ddatblygu perthynas waith dda, dwyn y Cyfarwyddwyr Gweithredol i gyfrif a rhoi safbwynt annibynnol i’r Bwrdd.
 
Mae gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyffwrdd â bywydau pawb sydd yn byw yng Nghymru ac rydym yn chwilio am geisiadau gan ystod eang o bobl sydd â chefndiroedd ac arbenigeddau amrywiol. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn clywed gan grwpiau a dangynrychiolir.
 
Dywedodd Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru:
 
“Rwyf yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau gan unigolion dawnus a phrofiadol sydd yn teimlo bod ganddynt rywbeth i’w roi i Iechyd Cyhoeddus Cymru ar adeg gyffrous, wrth i ni ddatblygu ein strategaeth hirdymor.
 
“Rwyf wedi cael fy mhlesio’n barhaus gyda safon uchel ein staff a’r gwaith arloesol yr ydym yn ei ddatblygu. Bydd y ddau benodiad yma o gymorth i gwblhau’r Bwrdd.”
   
Penodir Cyfarwyddwyr Anweithredol am gyfnod cychwynnol o hyd at bedair blynedd. Mae’r swydd yn seiliedig ar ymrwymiad amser tybiannol o isafswm o bedwar diwrnod y mis. Bydd y gydnabyddiaeth ariannol yn gyfwerth â £9,360 y flwyddyn.
 
Mae’r broses recriwtio’n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru. Gallwch ganfod mwy neu wneud cais am y naill swydd neu’r llall yma:

Swydd Wag -- Penodi Aelodau Annibynnol (dwy swydd)

Y dyddiad cau yw 2 Awst 2019.
 
I drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd yn Helen.Bushell@Wales.nhs.uk neu ar 02920 104 283