Neidio i'r prif gynnwy

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canolbwyntio ar annhegwch wrth i'r sefydliad geisio cynyddu'r nifer sy'n cael eu sgrinio

Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2024

Mae adroddiad Anghydraddoldeb Sgrinio diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod pobl sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig o sgrinio o gymharu â’r rhai sy’n byw yn y cymunedau lleiaf difreintiedig.

Mae mynd i’r afael ag annhegwch yn flaenoriaeth allweddol i’r Is-adran Sgrinio, ac mae’r Strategaeth Tegwch yn canolbwyntio ar bum maes allweddol: cyfathrebu, cymuned ac ymgysylltu, cydweithredu, cyflenwi gwasanaethau, data a monitro.

Y nod yw galluogi pob cyfranogwr cymwys i wneud dewisiadau gwybodus am sgrinio. Mae hyn yn gymhleth, wedi’i ddylanwadu gan ffactorau ieithyddol, cymunedol, diwylliannol ac economaidd sy’n effeithio ar ymddygiad, yn ogystal â mynediad ffisegol at wasanaethau.

Mae canfyddiadau allweddol o'r adroddiad yn amlygu graddiant cymdeithasol yn y niferoedd sy'n cael eu sgrinio ar draws yr holl raglenni sgrinio i oedolion.

Mae amrywiad daearyddol hefyd yn y nifer sy’n cael eu sgrinio ar lefel byrddau iechyd ac awdurdodau lleol.  Mae’r adroddiad hefyd yn nodi anghydraddoldebau eraill:

  • Ar gyfer rhaglenni sy’n gwahodd pobl ar draws grwpiau oedran, mae annhegwch yn y nifer sy’n manteisio ar y cynnig sgrinio. Mae pobl mewn grwpiau oedran iau yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig o sgrinio na phobl mewn grwpiau oedran hŷn.
  • Ar gyfer rhaglenni sy’n gwahodd pob rhywedd i gymryd rhan mewn sgrinio, mae annhegwch yn y nifer sy’n manteisio ar y cynnig sgrinio. Mae dynion yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig na menywod, er bod y bwlch annhegwch yn fach.
  • Ar gyfer rhaglenni lle mae pobl yn cael eu gwahodd fwy nag unwaith, mae pobl sydd wedi mynychu o'r blaen yn fwy tebygol o ymateb i wahoddiadau dilynol. 

Dywedodd Bethan Bowden, yr Ymgynghorydd Sgrinio:

“Rydym am i bawb sy’n gymwys i gael mynediad cyfartal a chyfle i fanteisio ar eu cynnig o brawf sgrinio GIG am ddim.”

“Byddwn yn defnyddio’r adroddiad hwn i gynyddu ein dealltwriaeth o ble mae anghydraddoldebau sgrinio’n bodoli a chanolbwyntio ein hymdrechion ar leihau anghydraddoldebau iechyd. Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn o gymorth i’n partneriaid ar draws y gwasanaethau iechyd ystyried pa gamau y gallant eu cymryd hefyd.”

Mae’r adroddiad yn cyflwyno data ar y rhai a wahoddwyd i gael eu sgrinio rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022. Gan ganiatáu chwe mis i gyfranogwyr fanteisio ar eu cynnig sgrinio, mae hyn yn adlewyrchu’r nifer sy’n cymryd rhan/y cwmpas o fis Hydref 2022.

Mae'r data a gyflwynir yn canolbwyntio ar y penderfynyddion a'r ffactorau demograffig sy'n cael eu casglu ar hyn o bryd wrth gasglu data fel mater o drefn.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Adroddiad Angydraddoldeb Adran Sgrinio 2023