Neidio i'r prif gynnwy

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i gymryd gofal yn y tywydd poeth iawn

Cyhoeddwyd: 10 Awst 2022

Mae arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl i gymryd gofal arbennig yn y tywydd poeth iawn a ragwelir dros y dyddiau nesaf. Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd canol y tridegau erbyn dydd Sadwrn mewn rhai rhannau o Gymru.

Gall tywydd poeth iawn sy'n para am ychydig ddiwrnodau, neu fwy, achosi dadhydradu, gorgynhesu, gorludded gwres a thrawiad gwres. Mae'n bwysig iawn gofalu am blant, yr henoed a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes. Cysylltwch yn rheolaidd ag anwyliaid, ffrindiau, teulu a chymdogion. 

Cynghorir eich bod yn gwneud newidiadau i'ch trefn arferol er mwyn ymdopi â'r gwres llethol. Mae hyn yn cynnwys osgoi gweithgarwch egnïol yng nghanol y dydd pan fydd yr haul ar ei boethaf, yfed digon o ddŵr a gwisgo het, eli haul a dillad lliw golau, dillad llac, yn ddelfrydol gyda llewys hir. Cadwch ystafelloedd yn oerach drwy gau bleindiau a llenni a chau ffenestri. 

Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Nid ydym wedi arfer â thywydd poeth eithriadol o boeth yng Nghymru, felly mae’n bwysig nad yw pobl yn ei drin fel diwrnod poeth arall. Dylech gymryd gofal arbennig i ddilyn y cyngor iechyd i amddiffyn eich hun ac eraill.”

Meddyliwch yn ofalus cyn ymgymryd â gweithgareddau a chynlluniwch ymlaen llaw bob amser. Os ydych chi'n mynd i fod yn yr awyr agored, gwnewch yn siŵr ei fod mewn man lle mae digon o gysgod. Ceisiwch osgoi siwrneiau hir yn y car hefyd. Os ydych yn trefnu digwyddiad awyr agored, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud asesiad risg sy’n cynnwys y gwres.
Gall plant ifanc ei chael yn anodd rheoleiddio tymheredd eu corff, felly cymerwch ofal i'w cadw'n oer. Peidiwch â gorchuddio pramiau neu fygis babanod â blancedi neu lieiniau - mae hyn yn atal aer rhag cylchredeg a gall ei wneud yn boethach iddynt. Os yw'r rhai bach yn cysgu mewn ystafell sy'n anodd ei hoeri, defnyddiwch ddillad gwely a dillad ysgafnach ac agor y drws a ffenestr, os yw'n ddiogel gwneud hynny.

Os ydych yn teimlo'n benysgafn, yn wan, yn bryderus neu'n profi syched dwys a phen tost/cur pen yn ystod y tywydd poeth, rhowch wybod i rywun a chymryd y camau gweithredu canlynol.

  • Symudwch i le oer cyn gynted â phosibl. 
  • Yfwch rywfaint o ddŵr neu sudd ffrwythau i ailhydradu
  • Dylech orffwys ar unwaith mewn lle oer os byddwch yn profi gwingo poenus yn y cyhyrau (yn enwedig yn y coesau, breichiau neu'r stumog ar ôl ymarfer corff parhaus yn ystod tywydd poeth iawn) ac yfwch laeth neu sudd ffrwythau.
  • Bydd angen sylw meddygol os bydd crampiau gwres yn para mwy nag awr.
  • Cysylltwch â'ch meddyg os byddwch yn teimlo symptomau anarferol neu os bydd y symptomau'n parhau.

Mae'n bwysig gwybod symptomau trawiad gwres. Os ydych chi'n poeni am unrhyw symptomau rydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn eu profi, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ewch i GIG 111 Cymru i wirio'ch symptomau.
 
Symptomau trawiad gwres

  • Teimlo'n sâl ar ôl 30 munud o orffwys mewn lle oer ac yfed digon o ddŵr.
  • Ddim yn chwysu, hyd yn oed wrth deimlo'n rhy boeth
  • Tymheredd uchel o 40C neu uwch
  • Anadlu'n gyflym neu brinder anadl
  • Teimlo'n ddryslyd
  • Ffit (neu drawiad)
  • Anymwybodol
  • Ddim yn ymatebol

Gall y tymheredd uchel ei gwneud yn demtasiwn neidio i afonydd, llynnoedd a dŵr arall, ond gall y dŵr fod yn oer iawn o hyd ac mae perygl o ddioddef sioc dŵr oer. Os byddwch yn mynd i drafferth yn y dŵr, cofiwch #Arnofio i Fyw. Mae peryglon boddi hefyd yn uwch os yw pobl wedi bod yn yfed neu'n cymryd cyffuriau.