Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Ofal Sylfaenol a Chymunedol rôl bwysig i'w chwarae o ran atal gordewdra a rheoli pwysau

Cyhoeddwyd: 10 Tachwedd 2021

Mae dau adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gall gofal sylfaenol a chymunedol gefnogi'r gwaith o atal gordewdra a rheoli pwysau yng Nghymru, a'r cymorth sydd ei angen ar y gweithlu i gyflawni'r rôl bwysig hon. 

Mae gordewdra yn fater iechyd cyhoeddus sylweddol a chynyddol yng Nghymru, ac mae'r pandemig wedi amlygu ymhellach risgiau cynyddol canlyniadau andwyol i bobl sy'n byw gyda gordewdra. Yn 2020, nodwyd bod 61 y cant o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew.  

Meddai Zoe Wallace, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol “Dechreuodd yr Yr Is-adran Gofal Sylfaenol weithio ar yr adroddiadau hyn i ddatblygu dealltwriaeth o rôl gofal sylfaenol a chymunedol wrth gefnogi atal gordewdra. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd ag amcanion Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach 2019 a'r bwriad yw cefnogi Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan 2021.” 

Mae'r adroddiad cyntaf yn edrych ar anghenion gofal sylfaenol pobl sy'n byw gyda gorbwysedd neu ordewdra yng Nghymru. Mae'r asesiad hwn o anghenion gofal iechyd (HCNA) oedolion o oedran gweithio (18-64 oed) yng Nghymru sy'n byw gyda gorbwysedd neu ordewdra, yn disgrifio: 

  • Epidemioleg gorbwysedd a gordewdra yng Nghymru; 
  • Cyd-destun polisi a blaenoriaethau strategol; 
  • Safbwyntiau pobl sy'n byw gyda gorbwysedd a gordewdra; 
  • Dulliau sy'n canolbwyntio ar y person; 
  • Rôl gofal sylfaenol a chymunedol yng Nghymru; 
  • Heriau ac asedau. 

Mae gwaith ymchwil wedi nodi y dylai'r gwaith o reoli gordewdra gael ei lywio gan egwyddorion rheoli clefydau cronig sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rhaid i hyn ddilysu profiad byw unigolion, gan symud y tu hwnt i ddulliau syml cyngor i “fwyta llai, symud mwy”, ac yn lle hynny mynd i'r afael â'r ysgogwyr sydd wrth wraidd gordewdra, a chynnwys nodau triniaeth cyd-gynhyrchu. 

Mae pobl sy'n byw gyda gorbwysedd neu ordewdra yn gweld gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol fel porthgeidwaid, arweinwyr, galluogwyr a phartneriaid ym maes rheoli pwysau, ac yn teimlo y dylai gweithwyr proffesiynol fod yn gyfforddus wrth godi materion sy'n ymwneud â phwysau mewn ymgyngoriadau, gyda chynlluniau gofal sy'n diwallu eu hanghenion mewn ffordd gyfannol. 

Mae'r HCNA wedi nodi wyth argymhelliad ‘uniongyrchol’ a thri argymhelliad ‘sy'n galluogi’. 

Trafododd yr ail astudiaeth fewnwelediad ymddygiadol gan y gweithlu gofal sylfaenol ar gefnogi rheoli pwysau. 

Wedi'i chynnal rhwng 26 Mai ac 1 Gorffennaf 2021, defnyddiodd yr astudiaeth mewnwelediad ymddygiadol ddulliau cymysg (arolwg ar-lein a grwpiau ffocws rhithwir) i ddeall safbwyntiau gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol ar eu gwybodaeth, sgiliau a hyder i gefnogi pwysau a rheoli pwysau, yn ogystal â nodi rhwystrau a galluogwyr o ran cael sgyrsiau rheoli pwysau. 

Amlygodd y canfyddiadau wrthdaro posibl o ran dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol sylfaenol a gofal cymunedol o benderfynyddion ehangach gordewdra, a ddangoswyd gan y ffaith bod 93.6 y cant o ymatebwyr o'r farn bod gordewdra yn gyflwr cronig, ond roedd 48.0 y cant yn cytuno, i ryw raddau, bod gordewdra yn ganlyniad dewis personol. 

Roedd rhai gweithwyr proffesiynol yn teimlo, er eu bod yn hyderus yn eu gallu i gefnogi pwysau a rheoli pwysau, yn ogystal â'u bwriad i gynnal sgyrsiau rheoli pwysau, eu bod yn dal i brofi rhwystrau sy'n atal y sgyrsiau hyn rhag digwydd. Ymhlith y ffactorau a oedd yn cyfrannu roedd: cyfeirio ac argaeledd gwasanaethau, cyfyngiadau amser, stigma cymdeithasol sy'n gysylltiedig â gordewdra ac addysg a hyfforddiant. 

Mae'r astudiaeth mewnwelediad ymddygiadol wedi nodi tri argymhelliad pellach. 

Meddai Dr Amrita Jesurasa, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus “Diolch i bawb wnaeth cymryd rhan yn yr arolwg deall ymddygiad ac i’r rhai wnaeth cefnogi’r datblygiad o’r adroddiadau. Mae'r argymhellion yn y ddau adroddiad hyn yn dangos y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu ac adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd gan ofal sylfaenol a chymunedol i gefnogi mwy o bobl yng Nghymru i gael pwysau iachach.  Mae grŵp llywio amlasiantaethol wedi'i sefydlu i ddatblygu'r argymhellion hyn a datblygu cynllun gweithredu i gefnogi'r gwaith o weithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan 2021.” 

 Gallwch weld yr adroddiadau yma: 

  • Anghenion gofal sylfaenol pobl sy'n byw gyda gordewdra: Crynodeb – Cymraeg a Saesneg  
  • Mewnwelediad ymddygiadol gan y gweithlu gofal sylfaenol ar gefnogi rheoli pwysau: Crynodeb – Cymraeg a Saesneg  

Yn ogystal, gellir gweld set sleidiau i ategu'r mewnwelediadau ymddygiadol o'r gweithlu gofal sylfaenol ar gefnogi rheoli pwysau yma - Cymraeg a Saesneg

Os hoffech gael yr adroddiad llawn ar gyfer pob allbwn, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm gofal sylfaenol PrimaryCare.One@wales.nhs.uk