Neidio i'r prif gynnwy

Mae gadael yr UE wedi newid y ffordd y mae Cymru yn cydweithio ar barodrwydd am glefydau heintus byd-eang, a'u hatal ac ymateb iddynt

Cyhoeddwyd: 20 Medi 2022

Mae adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn casglu bod pandemig y coronafeirws wedi gwthio clefydau heintus i frig yr agenda ar gyfer llywodraethau ledled y byd ac wedi dylanwadu'n sylweddol ar sut y mae'r DU, ac felly Cymru yn cydweithio â phartneriaid rhyngwladol ar glefydau heintus.  

Mae'r astudiaeth yn trafod sut y mae ymadawiad y DU o'r UE wedi newid ei pherthnasoedd rhyngwladol a phrosesau ar gyfer ymdrin â bygythiadau clefydau heintus yn y dyfodol.  Ar yr un pryd, meddai Louisa Petchey, Uwch-arbenigwr Polisi:  

“Mae gadael yr UE wedi newid y ffordd y mae'r DU a Chymru yn gweithio gyda gwledydd ledled y byd i fynd i'r afael â bygythiadau iechyd cyhoeddus o bwysigrwydd byd-eang. Rhoddodd pandemig COVID-19 gipolwg i ni o sut beth yw'r prosesau a'r partneriaethau newydd hyn ar waith ond mae'r sefyllfa'n dal i ddatblygu. Y bygythiad nesaf gan glefyd heintus yw lle byddwn yn gallu deall effaith Brexit yn llawn.  

“Yn y cyfamser, rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at sut y gall penderfyniadau polisi sy'n gallu ymddangos yn bell o iechyd – fel y broses o adael yr UE – arwain at ganlyniadau iechyd a llesiant yng Nghymru a thu hwnt.” 

Dyma'r negeseuon allweddol o'r adroddiad:  

  • Mae cydweithio rhyngwladol yn bwysig i dri phrif faes o ran paratoi ar gyfer clefyd heintus, ei atal ac ymateb iddo: 
    1. Mae rhannu data a gwybodaeth yn sicrhau bod achosion yn cael eu nodi'n gyflym ac y gellir datblygu ymateb effeithiol, wedi'i gydlynu a'i adolygu er mwyn adlewyrchu'r sefyllfa sy'n newid; 
    2. Mae masnachu meddyginiaethau a nwyddau meddygol yn golygu bod adnoddau'n symud o'r gwledydd sy'n eu cynhyrchu i'r mannau lle mae eu hangen, pan fydd eu hangen; 
    3. Cydweithio ar atal a pharodrwydd, gan gynnwys ymchwil i ddeall clefydau heintus yn well a'u trin ac effaith cytundebau masnach ar arbenigedd y gweithlu gofal iechyd a safonau rheoleiddio.  
  • Mae Brexit o reidrwydd wedi newid y ffyrdd y mae Cymru/y DU yn gweithio gyda'r UE yn y meysydd hyn. Mae hefyd wedi gweld y DU yn datblygu partneriaethau rhyngwladol newydd. 
  • Er bod y llinellau amser ar gyfer Brexit a phandemig COVID-19 wedi gorgyffwrdd, roedd llawer o drefniadau ôl-Brexit yn dal i gael eu datblygu.  Yr argyfwng iechyd cyhoeddus rhyngwladol nesaf fydd yn profi'r systemau newydd yn llawn yng Nghymru/y DU.    
  • Mae poblogaeth iach yn fwy cydnerth o ran clefydau heintus. Dangoswyd bod gan Brexit y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru. Dylid ystyried yr effeithiau Brexit hyn yng nghyd-destun atal clefydau heintus, parodrwydd amdanynt ac ymateb iddynt.  

Mae ‘Nodyn briffio: A yw Brexit wedi newid sut y mae Cymru yn cymryd rhan wrth atal clefydau heintus byd eang a pharodrwydd amdanynt a'u hatal?’ wedi'i baratoi i ddangos y ffyrdd niferus y gall Brexit ddylanwadau ar iechyd a llesiant yng Nghymru. Mae'n darparu adnodd gwerthfawr i'r rhai sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer clefydau heintus ac ymateb iddynt, a bydd o ddiddordeb ehangach i weithwyr iechyd proffesiynol a swyddogion sy'n gweithio ar bolisi iechyd cyhoeddus.