Cyhoeddwyd: 20 Medi 2022
Mae adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn casglu bod pandemig y coronafeirws wedi gwthio clefydau heintus i frig yr agenda ar gyfer llywodraethau ledled y byd ac wedi dylanwadu'n sylweddol ar sut y mae'r DU, ac felly Cymru yn cydweithio â phartneriaid rhyngwladol ar glefydau heintus.
Mae'r astudiaeth yn trafod sut y mae ymadawiad y DU o'r UE wedi newid ei pherthnasoedd rhyngwladol a phrosesau ar gyfer ymdrin â bygythiadau clefydau heintus yn y dyfodol. Ar yr un pryd, meddai Louisa Petchey, Uwch-arbenigwr Polisi:
“Mae gadael yr UE wedi newid y ffordd y mae'r DU a Chymru yn gweithio gyda gwledydd ledled y byd i fynd i'r afael â bygythiadau iechyd cyhoeddus o bwysigrwydd byd-eang. Rhoddodd pandemig COVID-19 gipolwg i ni o sut beth yw'r prosesau a'r partneriaethau newydd hyn ar waith ond mae'r sefyllfa'n dal i ddatblygu. Y bygythiad nesaf gan glefyd heintus yw lle byddwn yn gallu deall effaith Brexit yn llawn.
“Yn y cyfamser, rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at sut y gall penderfyniadau polisi sy'n gallu ymddangos yn bell o iechyd – fel y broses o adael yr UE – arwain at ganlyniadau iechyd a llesiant yng Nghymru a thu hwnt.”
Dyma'r negeseuon allweddol o'r adroddiad:
Mae ‘Nodyn briffio: A yw Brexit wedi newid sut y mae Cymru yn cymryd rhan wrth atal clefydau heintus byd eang a pharodrwydd amdanynt a'u hatal?’ wedi'i baratoi i ddangos y ffyrdd niferus y gall Brexit ddylanwadau ar iechyd a llesiant yng Nghymru. Mae'n darparu adnodd gwerthfawr i'r rhai sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer clefydau heintus ac ymateb iddynt, a bydd o ddiddordeb ehangach i weithwyr iechyd proffesiynol a swyddogion sy'n gweithio ar bolisi iechyd cyhoeddus.