Cyhoeddwyd: 15 Chwefror 2024
Yn dilyn y rhybudd diweddar gan arbenigwyr iechyd bod y pas yn mynd ar led yn ehangach eleni, datgelodd arolwg a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd y mwyafrif o'r ymatebwyr yn ymwybodol bod menywod beichiog yn gymwys i gael eu brechu yn erbyn y clefyd.
Mae'r canlyniadau diweddaraf o arolwg panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos nad yw 65 y cant o'r cyhoedd yn ymwybodol bod menywod beichiog yn gymwys i gael brechiad yn erbyn pertwsis (y pas), haint bacterol o'r ysgyfaint a'r tiwbiau anadlu, sy'n achosi cymhlethdodau difrifol yn yr ifanc iawn. Mae cyfraddau'r brechiad chwech mewn un sy'n cynnig amddiffyniad yn erbyn y pas ar gyfer plant yn wyth, 12 ac 16 wythnos oed yng Nghymru yn parhau'n uchel, ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae cyfraddau brechu yn ystod beichiogrwydd wedi gostwng o dros 80 y cant i 70 y cant. Mae'r rhan fwyaf o fenywod beichiog yng Nghymru yn dal i dderbyn eu brechiad ar gyfer y pas, ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pryderu nad yw cynifer o fenywod yn cael eu brechu ar adeg pan fo cyfraddau'r clefyd yn cynyddu.
Mae'r pas yn lledaenu'n hawdd ac weithiau gall achosi problemau iechyd difrifol. Mae'n bwysig i fabanod a phlant gael eu brechu yn erbyn y pas, ond gall menywod beichiog helpu i amddiffyn eu babanod drwy gael eu brechu eu hunain – yn ddelfrydol o 16 wythnos hyd at 32 wythnos o feichiogrwydd, er y gellir rhoi brechlynnau hyd nes y byddant yn esgor. Mae brechu menywod beichiog yn effeithiol iawn wrth amddiffyn baban newydd-anedig rhag datblygu'r pas yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd oherwydd bydd imiwnedd yn trosglwyddo i'r babi drwy'r brych, gan ddarparu amddiffyniad goddefol cyn ei fod yn ddigon hen i gael ei frechu ei hun yn wyth wythnos oed.
Gwnaeth Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus hefyd amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd brechlynnau yn ystod beichiogrwydd yng Nghymru gyda 67 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno bod brechu menywod beichiog naill ai'n bwysig iawn (50 y cant) neu'n eithaf pwysig (17 y cant).
Gofynnwyd i ymatebwyr yr arolwg hefyd a oeddent yn ymwybodol y gall menywod beichiog dderbyn brechlynnau ar gyfer ffliw a Covid-19. Yn gadarnhaol, dywedodd 56 y cant o ymatebwyr eu bod yn ymwybodol bod menywod beichiog yn gymwys i gael brechiad ffliw, a 54 y cant ar gyfer brechiad Covid-19. Mae'r ddau frechlyn yn ddiogel ac yn amddiffyn y fam a'r babi yn erbyn haint, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Meddai Dr Chris Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy: “Babanod o dan chwe mis oed sy'n wynebu'r risg fwyaf o'r pas, sef clefyd heintus iawn sy'n cael ei ledaenu drwy anadlu defnynnau bach yn yr aer o beswch a thisian pobl eraill. Gall fod yn ddifrifol iawn ac arwain at niwmonia, niwed parhaol i'r ymennydd, neu farwolaeth mewn rhai achosion.
“Mae brechu yn ystod beichiogrwydd yn amddiffyn babi yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd, cyn iddo dderbyn ei imiwneiddio rheolaidd cyntaf pan fydd yn wyth wythnos oed. Rydym yn annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod yn manteisio ar eu cynnig brechu pan gaiff ei roi, neu i ofyn i'w meddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd os ydynt yn credu nad ydynt efallai wedi ei gael.”
Ymatebodd 1,119 o aelodau panel i'r arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2023 a ofynnodd i drigolion Cymru (16 oed a throsodd) am eu barn ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys: brechlynnau ffliw a Covid-19, Gwasanaeth GIG 111 Cymru, a Chlystyrau Gofal Sylfaenol. Oni nodir yn wahanol, caiff data eu pwysoli i adlewyrchu demograffeg poblogaeth cenedlaethol yn ôl oedran, rhyw ac amddifadedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r sgwrs Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yma.
I gael rhagor o wybodaeth:
Gwybodaeth am frechiadau yn ystod beichiogrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)