Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros 10 y cant o farwolaethau yng Nghymru oherwydd smygu

24 Medi 2024

Mae dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos, ar gyfartaledd, bod 3,845 o farwolaethau yng Nghymru yn 2022 oherwydd smygu yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2020 a 2022: roedd mwy nag un o bob deg o'r holl farwolaethau ymhlith y rhai dros 35 oed.  

Mae'r dadansoddiad newydd (Saesneg yn unig) yn amlygu effaith sylweddol smygu ar iechyd ledled y wlad, gan bwysleisio hefyd yr anghydraddoldebau amlwg rhwng y cymunedau â'r amddifadedd mwyaf a'r cymunedau â'r amddifadedd lleiaf, gyda chyfradd y marwolaethau y gellir eu priodoli i smygu dair gwaith yn uwch yn y cymunedau â'r amddifadedd mwyaf o gymharu cymunedau â'r amddifadedd lleiaf.  

Yn ogystal â bod yn brif achos salwch a marwolaeth y gellir eu hatal, dangosodd y dadansoddiad hefyd fod, ar gyfartaledd, mwy na 17,000 o dderbyniadau i'r ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru i'w priodoli i smygu, gan ychwanegu pwysau sylweddol ar y system gofal iechyd. Roedd cyfraddau'r derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu priodoli i smygu hefyd ddwywaith yn uwch i drigolion yn y cymunedau â'r amddifadedd mwyaf o gymharu â'r rhai yn y cymunedau â'r  amddifadedd lleiaf. 

Meddai Chris Emmerson, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r ystadegau hyn yn ein hatgoffa'n glir o'r effaith ddinistriol y mae smygu yn parhau i'w chael ar iechyd poblogaeth Cymru, yn enwedig yn ein cymunedau â'r amddifadedd mwyaf. Er gwaethaf y cynnydd gwirioneddol rydym wedi'i wneud i leihau'r niferoedd sy'n dechrau smygu a'r cymorth i smygwyr roi'r gorau iddi, mae'n amlwg bod angen i ni wneud pob ymdrech i fynd i'r afael â smygu os ydym am fynd i'r afael â'r costau iechyd ac ariannol anferthol hyn ar gyfer pobl Cymru.” 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad yn Araith y Brenin y bydd y Bil Tybaco a Fêps, a gyflwynwyd gyntaf gan lywodraeth flaenorol y DU, yn dychwelyd i'r Senedd yn y tymor presennol. Croesawodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarpariaethau'r Bil blaenorol, gan gynnwys gwahardd gwerthu tybaco i bawb a anwyd ar ôl 1 Ionawr 2009 fel cam pwysig tuag at leihau niwed smygu i boblogaeth Cymru.  

“Mae'r dadansoddiad newydd hwn yn amlygu'r manteision y gallai polisïau uchelgeisiol i atal pobl ifanc rhag dechrau smygu eu cyflwyno” ychwanegodd Mr Emmerson. “Roedd Helpa Fi i Stopio, ein gwasanaeth cenedlaethol rhoi'r gorau i smygu y GIG, wedi helpu dros 16,000 o bobl y llynedd ac mae'n barod i ddarparu cymorth am ddim, cyfeillgar ac effeithiol i bob smygwr sy'n barod i roi'r gorau iddi” 

Gall pob smygwr yng Nghymru dderbyn cymorth am ddim, anfeirniadol i roi'r gorau iddi, gan gynnwys meddyginiaeth am ddim i roi'r gorau i smygu. Ewch i https://www.helpafiistopio.cymru/ neu ffoniwch 0800 085 2219