Neidio i'r prif gynnwy

Mae deall penderfynyddion masnachol iechyd yn hanfodol i helpu i wella iechyd a llesiant plant a phobl ifanc

17 Gorffennaf 2024 

Mewn adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae tystiolaeth ryngwladol yn amlygu y gall cyfyngiadau ar hysbysebu, gofynion oedran cyfreithiol, cynnydd mewn prisiau, a chyfyngiadau ar ble y gellir adeiladu siopau bwyd brys leihau amlygiad a mynediad at fwyd nad yw’n iach. Gall hyn arwain at well canlyniadau iechyd ymhlith plant a phobl ifanc.  

Mae’r adroddiad yn dangos bod pobl ifanc yn arbennig o agored i effeithiau andwyol gweithgareddau masnachol ar eu hiechyd, yn bennaf ym meysydd:  

  • Siopau Bwyd nad yw’n Iach a Bwyd Brys: Mae'r toreth o fannau gwerthu bwyd brys a hygyrchedd opsiynau bwyd nad yw’n iach yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwael, gan gynnwys gordewdra a chlefydau anhrosglwyddadwy cysylltiedig (NCDs). 

  • Pwysau Cymdeithasol a Marchnata: Gall amlygiad i farchnata, yn enwedig trwy gyfryngau cymdeithasol, effeithio'n sylweddol ar ymddygiadau a chanlyniadau iechyd pobl ifanc. Mae dylanwad marchnata digidol, gan gynnwys hyrwyddiadau dylanwadwyr, yn gwaethygu'r mater trwy hyrwyddo cynhyrchion bwyd nad yw’n iach. 

Mae’r adroddiad yn tynnu ar sefydliadau rhyngwladol allweddol, tystiolaeth ac enghreifftiau o arferion da o bob cwr o’r byd i ddangos mesurau polisi effeithiol, gan gynnwys Chile, Estonia a Norwy.  

Mae'r adroddiad yn argymell sawl cam gweithredu ar gyfer llunwyr polisi. Mae’r camau hyn yn cynnwys blaenoriaethu gweithredu cyfyngiadau marchnata cynhwysfawr ar gyfer cynhyrchion nad yw’n iach, cryfhau rheoliadau cynllunio trefol i reoli nifer y mannau gwerthu bwyd brys ger ysgolion a hyrwyddo ymyriadau mewn ysgolion i sicrhau amgylcheddau bwyd iach yn ogystal â chyfyngiadau ar farchnata ar-lein. 

Dywedodd Mariana Dyakova, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO): “Mae creu amgylcheddau sy’n galluogi iechyd yn gofyn am ymdrech ar y cyd gan lunwyr polisi ar bob lefel. Gall dilyn argymhellion byd-eang sy’n seiliedig ar dystiolaeth a dysgu o brofiad rhyngwladol helpu i wella canlyniadau iechyd y cyhoedd, yn enwedig i bobl ifanc sy’n cael effaith barhaol er mwyn adeiladu Cymru iachach a mwy cydnerth.” 

I gael rhagor o fanylion ac i weld yr adroddiad llawn, cyfeiriwch at yr Adroddiad Rhyngwladol ar Sganio a Dysgu’r Gorwel gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.