Cyhoeddwyd: 14 Tachwedd 2024
Mae pecyn o fentrau i atal diabetes Math 2, lleihau marwolaethau ac anableddau y gellir eu hosgoi yn rhan o ddull newydd o ddatrys diabetes a ysgogir gan GIG Cymru. Mae'r dull hwn yn ceisio uno arbenigwyr diabetes, clinigwyr, cymunedau a phobl sy'n byw gyda diabetes er mwyn mynd i'r afael ag un o broblemau iechyd mwyaf Cymru.
Mae gan Gymru y nifer uchaf o bobl sy'n byw gyda diabetes yn y DU. Heddiw, mae 220,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes ac erbyn 2035 disgwylir y bydd 48,000 o bobl ychwanegol yn byw gyda'r cyflwr - sy'n cyfateb i un mewn 11 o oedolion. Mae gan 90 y cant o'r rhai sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru ddiabetes Math 2, cyflwr difrifol ac weithiau gydol oes sy'n gallu achosi problemau iechyd mawr. Mae 10 y cant o gyllideb y GIG eisoes yn cael ei wario ar ddiabetes.
Mae ffocws cryfach ar atal ar draws y system iechyd a darparu gwell cymorth fel y gall pobl sy'n byw gyda diabetes gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd yn allweddol i wella canlyniadau a throi'r llanw ar y cynnydd yn nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes Math 2 yng Nghymru.
Nod rhaglen Datrys Diabetes Gyda'n Gilydd yw sicrhau newid sylweddol o ran rheoli ac atal diabetes ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn defnyddio dull eang, i sicrhau manteision ar draws y system drwy ganolbwyntio ar atal a gofal effeithiol i'r rhai sydd â diabetes. Erbyn 2028, mae'r rhaglen yn ymrwymedig i sicrhau bod llai o bobl yn byw gyda diabetes yng Nghymru, yn ogystal â gwell gofal a chanlyniadau i'r rhai sydd eisoes yn byw gyda diabetes.
Mae'r rhaglen yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd yng Nghymru a phartneriaid allweddol gan gynnwys Diabetes UK Cymru sy'n datblygu rhaglenni diabetes arloesol yn lleol ac yn profi a ellir cyflwyno'r rhain yn genedlaethol.
Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dadansoddi pa rwystrau sy'n atal pobl sy'n byw gyda diabetes rhag ymgysylltu â gwasanaethau gofal iechyd. Maent am ddeall y ffordd orau o'u cynorthwyo â'u gofal a'r hyn sy'n eu hannog ac yn eu galluogi.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi dadansoddi sut y gall adleoli adnoddau presennol i ganolbwyntio ar atal a diagnosis cynnar, cywir o Ddiabetes Math 2 wella canlyniadau iechyd mewn cleifion a lleihau'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer triniaeth a gofal diwedd oes.
Meddai Jim McManus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Diabetes Math 2 yn gyflwr cronig sy'n gallu dinistrio a byrhau bywydau. Yn anffodus, mae'r cyflwr hwn yn caru ein ffyrdd o fyw modern; oherwydd ein bod yn llawer llai egnïol ac mae gennym fynediad at fwydydd sy'n llawer mwy dwys o ran calorïau nag erioed mewn hanes.
“Y newyddion da yw, gyda'r wybodaeth a'r cymorth cywir i helpu pobl i wneud y newidiadau ymddygiad angenrheidiol, mae modd atal Diabetes Math 2 i raddau helaeth, ac mewn rhai achosion gellir hyd yn oed ei wrthdroi. Mae datblygiadau mewn technoleg ddigidol yn ei gwneud yn llawer haws trin a rheoli Math 1 a 2 ac yn fwy effeithiol nag erioed o'r blaen, gan wella canlyniadau ac ymestyn bywydau. Ond mae llawer o waith i'w wneud os yw Cymru am atal anabledd a marwolaeth y gellir eu hosgoi o ddiabetes, a dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y byddwn yn cyrraedd yno.
“Mae'r rhaglen Datrys Diabetes Gyda'n Gilydd yn ceisio cydgysylltu'r system ddiabetes gyfan yng Nghymru, rhannu arfer gorau, dod o hyd i ffyrdd newydd arloesol o wneud pethau, a nodi bylchau mewn gwybodaeth a chymorth ar gyfer clinigwyr, cleifion a'r cyhoedd. Os byddwn i gyd yn gwneud hyn y gyson, byddwch yn sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen i alluogi pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach.”
Meddai Oliver Williams, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinydd ar waith BIPCF ‘Sicrhau'r Canlyniadau Iechyd Gorau Posibl mewn Diabetes Math 2’
“Fel rhan o’r gwaith arolygwyd 47 o bobl sy'n byw gyda Diabetes Math 2 i ddeall eu profiadau a'r hyn y mae angen i ni ei wneud i helpu i wella eu bywydau. Dangosodd y gwaith hwn yn glir bod cleifion am gael mwy o gymorth a hyfforddiant cynnar i'w grymuso i reoli eu diabetes yn fwy effeithiol eu hunain; a dangosodd eu bod yn teimlo bod mynediad hawdd gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol dibynadwy yn hanfodol iddynt.”
“Byddwn yn rhannu'r dysgu hwn, a'r argymhellion y mae cleifion wedi'u gwneud drwy gydol y system a chyda gweddill y rhaglen fel y gallwn ddechrau gwneud y newidiadau sydd eu hangen i wella bywydau pobl.”
Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru:
“Mae diabetes yn effeithio ar bob rhan o fywyd person ac efallai y bydd person sy'n byw gyda diabetes yn gwneud tua 180 o benderfyniadau ychwanegol bob dydd. Er mwyn gallu hunanreoli eu diabetes, mae angen arweiniad, gwybodaeth a chymorth cyson ar bobl. Mae hyn yn cynnwys cymorth seicolegol. Rhaid i systemau gofal iechyd, elusennau a chymunedau weithio gyda'i gilydd i roi'r gofal sydd ei angen ar bobl sydd â diabetes a'r gofal y maent yn eu haeddu.”
Dywedodd Dr Julia Platts, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru:
“Dylai pobl â diabetes gael mynediad at adnoddau i fyw bywydau iach. Mae hyn yn cynnwys adnoddau er mwyn helpu i atal diabetes pan fo hynny'n bosibl ac adnoddau i helpu i wella diabetes lle y bo'n bosibl. I'r rhai sy'n sy'n byw gyda diabetes, mae gofal cynnar da mor bwysig; mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer hunanreoli, mynediad at feddyginiaeth effeithiol a mynediad cynnar at dechnolegau y profwyd eu bod yn gwella canlyniadau corfforol a llesiant.”
Mae gwaith arall y mae’r rhaglen yn ei gefnogi yn cynnwys:
Am fwy o wybodaeth:
https://phw.nhs.wales/tacklingdiabetes