Mae wythnos y gynhadledd yma ac rydyn ni mor gyffrous eich gweld chi i gyd yn yr ICC yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Pan gyrhaeddwch y lleoliad, byddwch yn gallu casglu'ch bathodyn o ddesg y dderbynfa. Bydd y sesiynau sbotolau a ffefrir gennych, os ydynt ar gael, wedi cael eu hargraffu ar y cefn. Bydd bathodynnau'n cael eu hargraffu ar gerdyn ailgylchadwy.
Cofiwch ddod â llinyn ar gyfer eich bathodyn!
Er mwyn ein helpu i leihau gwastraff, mae rhaglen y gynhadledd ar gael i'w lawrlwytho yma.
Mae'n bwysig i chi cario eich bathodyn gyda chi bob amser yn ystod y gynhadledd oherwydd efallai y gofynnir i chi ddangos hwn i'w gynnwys mewn sesiynau Sbotolau wedi'u bwcio'n llawn.
Mae gan Fws Casnewydd, National Express a Megabus lwybrau i ganol Casnewydd.
Oddi yno, gallwch ddal y bws gwennol yn syth i'r ICC.
Mae tocyn sengl yn £1.80 ac mae tocyn diwrnod (teithio diderfyn am y dydd) yn £3.70.
Gall cynadleddwyr gael gostyngiad o 10% ar hyn ac osgoi gorfod cario arian parod drwy archebu cerdyn rhyddid. Mae'r cerdyn am ddim ac mae'r taliad £5 ar gyfer y credyd £5 wedi'i raglwytho i'r cerdyn.
Ar gyfer amseroedd trenau, gwybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i tfw.gov.wales
Os ydych yn gyrru, teithiwch gyda'ch gilydd! Gofynnwch i gydweithwyr neu gallwch gynnwys neges ar y digwyddiad Facebook i rannu cyrchfannau.
Gadewch gyda digon o amser i gyrraedd rhwng 9am - 9.30am i gofrestru ac i gasglu'ch bathodyn. Bydd y sesiynau'n cychwyn yn brydlon am 10am.
Mae parcio ar gael ar y safle - codir tâl am hyn.
Darllenwch ragor am gyrraedd yr ICC ar wefan y lleoliad.
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol @IechydCyhoeddus a defnyddiwch #CICC19 i fod yn rhan o'r sgyrsiau ar y diwrnod!