Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfran y plant â phwysau iach yn debyg i lefelau cyn y pandemig ond mae materion yn parhau

Cyhoeddwyd: 23 Mai 2023

Mae nifer y plant 4-5 oed a oedd yn bwysau iach yn debyg ar y cyfan i'r lefelau cyn y pandemig, yn y chwe bwrdd iechyd sydd wedi cyflwyno data i Raglen Mesur Plant 2021-22 a gyhoeddir heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae cyfran y plant â gordewdra yn parhau'n uwch yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf ym mhob un o'r chwe bwrdd iechyd. Ar lefel awdurdod lleol roedd cyfran y plant â gordewdra yn amrywio o 9.9 y cant yn Sir Fynwy i 15.8 y cant yng Nghastell-nedd Port Talbot. 

Meddai Dr Llion Davies, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rwy'n falch iawn bod y broses o gasglu data sy'n sail i'r Rhaglen Mesur Plant yn adfer yn dda yn dilyn y pandemig, a hoffwn ddiolch i'r timau nyrsio ysgolion am eu gwaith caled, yn ogystal â'r athrawon sy'n helpu i gynnal y sesiynau yn ddidrafferth. 

“Fodd bynnag, bu tarfu o hyd ar gasglu data yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22 ac roedd data dim ond ar gael ar gyfer chwe rhanbarth bwrdd iechyd, felly ni ddylid allosod y data a gyflwynir yn yr adroddiad i ddarparu ffigurau ar gyfer Cymru gyfan.” 

Ychwanegodd Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae adroddiad Rhaglen Mesur Plant eleni yn dangos rhai canfyddiadau diddorol o ran y newid o adroddiad y llynedd ac effaith bosibl pandemig Covid ar iechyd sy'n gysylltiedig â deiet plant.  

“Yn y ddwy ardal bwrdd iechyd a gyflwynodd ddata y llynedd roedd cynnydd mawr yng nghyfran y plant â gordewdra, ond mae niferoedd eleni yn dangos ei fod wedi dychwelyd at lefelau tebyg i'r hyn cyn y pandemig, gan awgrymu bod unrhyw effaith yn ymddangos yn un dros dro ar lefel y boblogaeth.” 

Gyda gordewdra ymhlith plant yn parhau'n fater parhaus, mae gwefan Pob Plentyn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth i rieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. 

Yn seiliedig ar ’10 Cam i Bwysau Iach’, mae'r safle yn rhoi awgrymiadau ymarferol a defnyddiol i rieni ynghylch sut i sicrhau bod eu plentyn yn cael digon o ffrwythau a llysiau, yn treulio amser yn chwarae yn yr awyr agored, yn cael digon o gwsg, ac yn cyfyngu ar amser o flaen sgrin. 

Meddai Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ym maes Gwella Iechyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae gwefan Pob Plentyn yn rhoi offer ymarferol iawn i rieni er mwyn iddynt roi'r dechrau gorau posibl i'w plant. 

“Rydym yn gwybod bod rhieni am wneud y peth iawn i'w plant, ond rydym hefyd yn ymwybodol bod llawer o bwysau y maent yn eu hwynebu – boed hynny o'r costau byw cynyddol, cael amser cyfyngedig i dreulio gyda'u plant, a hefyd ceisio meddwl am syniadau ar gyfer gweithgareddau am ddim a chost isel i'w gwneud gyda'i gilydd. 

“Mae gwefan Pob Plentyn yn llawn syniadau defnyddiol a fydd wir yn helpu rhieni a gofalwyr i fwynhau gweithgareddau iach gyda'u plant.   

“Mae bod yn bwysau iach yn galluogi plant i dyfu a chwarae'n well, cysgu'n well a gallu canolbwyntio'n well. Mae atal yn bendant yn well na gwella – bydd cyflwyno a mabwysiadu ymddygiad iach, fel teulu, o ddechrau bywyd plentyn yn rhoi manteision parhaus iddynt.    

“Mae costau byw cynyddol yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy anodd i rieni a gofalwyr wneud dewisiadau iach. Rydym yn annog pobl i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun Cychwyn Iach sy'n helpu rhai teuluoedd i fforddio prynu ffrwythau, llysiau a bwydydd iach eraill tan bod eu plentyn yn bedair oed.” 

Ychwanegodd Dr Bishop:

“Rydym hefyd yn gwybod bod y ffactorau sy'n cyfrannu at fagu pwysau gormodol mewn plant yn gymhleth ac rydym yn cael ein dylanwadu a'n hysgogi gan yr amgylchedd o'n hamgylch, y diwylliant rydym yn byw ynddo, a'n gallu i wneud newidiadau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau'n ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth symud yr amrywiaeth o atebion a amlinellir yn strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach yn eu blaen er mwyn helpu pob plentyn i fod yn iach nawr ac yn y dyfodol.” 

Gellir lawrlwytho'r adroddiad yma.