Cyhoeddwyd: 7 Hydref 2021
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at yr angen i wasanaethau gofal iechyd gofnodi a rhannu gwybodaeth am statws tai cleifion, er mwyn gallu nodi, deall a chefnogi eu hanghenion gofal iechyd yn well.
Mae argaeledd tai diogel ac o ansawdd yn un o'r penderfynyddion iechyd allweddol, ond nid yw statws tai unigolyn yn cael ei gasglu'n rheolaidd gan wasanaethau gofal iechyd.
Gan ddefnyddio dull newydd o ddod â gwybodaeth am statws tai ynghyd ar draws gwasanaethau, mae'r adroddiad hwn yn amcangyfrif bod dros 15,000 o unigolion â phrofiad byw o ddigartrefedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys bron 2,000 o unigolion y cofnodwyd eu bod yn ddigartref yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Drwy gysylltu data, llwyddodd y tîm i greu darlun mwy cynhwysfawr o iechyd ymhlith y boblogaeth hon, er bod statws tai yn cael ei gofnodi'n anghyson ar draws gwasanaethau.
Dyma'r canfyddiadau allweddol;
Meddai Jiao Song, Prif Ystadegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r astudiaeth hefyd yn tynnu sylw at yr anghysondeb o ran cofnodi statws tai mewn data iechyd. Ymhlith y rhai a nodwyd fel rhai digartref mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, roedd 78 y cant wedi mynd i un o gyfleusterau arall y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) o fewn mis, ond dim ond 3 y cant a gafodd eu statws tai wedi'i gofnodi yn y gwasanaethau eraill er bod digartrefedd yn effeithio ar driniaeth a gofal effeithiol.
“Drwy ddod â'r setiau data hyn at ei gilydd gallwn roi cipolwg gwerthfawr ar iechyd y rhai sy'n ddigartref ar hyn o bryd, a hefyd y rhai sydd â phrofiad blaenorol o ddigartrefedd. Mae hyn yn dangos y berthynas tymor hwy rhwng tai ac iechyd i rai unigolion.”
Meddai Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Un o gryfderau allweddol yr astudiaeth hon yw'r gallu i nodi'r boblogaeth â phrofiad byw o ddigartrefedd ar draws Cymru gan ddefnyddio data rheolaidd. Yna gallwn gymhwyso'r dull hwnnw i wella ein dealltwriaeth o ysgogwyr anghydraddoldebau mewn iechyd yn y boblogaeth hon a gwerthuso effaith dulliau polisi a gwasanaeth i nodi anghenion iechyd a mynd i'r afael â nhw.”
Meddai Ruth Power, Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru:
‘Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn sy'n dangos y materion iechyd ychwanegol sylweddol sy'n gysylltiedig â digartrefedd a thai annigonol. Mae’r data'n atgyfnerthu ein profiad o roi cyngor ar dai i bobl ledled Cymru - mae tai o ansawdd uchel, fforddiadwy yn hanfodol i iechyd a llesiant da.’