Neidio i'r prif gynnwy

Mae codi proffil nyrsio a bydwreigiaeth yn allweddol ar gyfer gwella iechyd yn fyd-eang

Cyhoeddwyd: 30 Medi 2021

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw, yn nodi bod cydnabod a hyrwyddo nyrsio yn fyd-eang yn hanfodol er mwyn gwella iechyd i bawb.

Mae'r adroddiad yn nodi bod nyrsys a bydwragedd wrth wraidd y rhan fwyaf o dimau iechyd, gan chwarae rhan hanfodol wrth wella a thrawsnewid gwasanaethau iechyd, hybu iechyd ac atal a lleihau effaith clefydau. Mae nyrsys a bydwragedd yn sicrhau bod y gofal sy'n cael ei ddarparu yn dosturiol ac o safon uchel, y dylai pob claf a dinesydd ddisgwyl ei dderbyn. 

Deilliodd ymgyrch fyd-eang ‘Nursing Now’ o'r adroddiad Triple Impact a oedd yn dadlau y byddai cryfhau nyrsio yn gwneud cyfraniad mawr at dri o'r Nodau Datblygu Cynaliadwy: Gwell iechyd, mwy o degwch rhwng y rhywiau a datblygu economaidd.  Lansiwyd yr ymgyrch yn 2018 ac fe'i cymeradwywyd gan Sefydliad Iechyd y Byd a Chyngor Rhyngwladol y Nyrsys ac roedd yn alwad i weithredu yn lleol ac yn fyd-eang gan hyrwyddo cyfleoedd i godi proffil nyrsio ar draws amrywiaeth o themâu, fel arfer uwch ac arloesol, capasiti ymchwil, datblygu arweinyddiaeth i enwi ond ychydig. 

Arweiniodd yr ymgyrch at Sefydliad Iechyd y Byd yn dynodi 2020 yn Flwyddyn y Nyrs a chyhoeddi adroddiad cyntaf Cyflwr Nyrsio'r Byd.  

Ni ellid bod wedi rhagweld y byddai 2020 yn rhoi cymaint o sylw i rolau nyrsys a bydwragedd, gyda'r galwadau sylweddol a roddwyd arnyn nhw a gweithwyr iechyd eraill gan effaith Coronafeirws, gan amlygu hyd yn oed yn fwy y rôl allweddol y maent yn ei chwarae bob dydd wrth wella a diogelu iechyd. Roedd yr ymgyrch wedi annog yn gryf gyfranogiad lleol a chenedlaethol yng nghyd-destun gwledydd a lleoliadau unigol.

Yng Nghymru, gofynnodd y Prif Swyddog Nyrsio ar yr adeg honno (yr Athro Jean White) i Iechyd Cyhoeddus Cymru sefydlu grŵp Nursing Now ar draws y sefydliad, i sicrhau bod Cymru yn chwarae ei rhan yn yr ymdrechion byd-eang. Roedd yn bwysig bod ‘Nursing Now’ yng Nghymru yn cael ei osod yng nghyd-destun ein cyd-destun polisi yng Nghymru fel ‘Cymru Iachach’. 

Sefydlwyd y grŵp llywio yn 2019 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gais gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o feithrin cydnerthedd, tosturi ac arweinyddiaeth yn sectorau nyrsio a bydwreigiaeth Cymru a defnyddio hyn fel enghraifft i godi proffil y diwydiant yn rhyngwladol. 

Meddai Rhiannon Beaumont Wood, Cadeirydd Nursing Now/Cymru Wales a Chyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:    

“Mae gwledydd ledled y byd yn wynebu heriau enfawr o ran sicrhau gofal iechyd o safon. Mae'r coronafeirws, adnoddau prin, baich cynyddol clefydau cronig, ac effaith materion fel newid yn yr hinsawdd, mudo a phoblogaethau sy'n heneiddio yn rhoi systemau iechyd dan straen. 

“At hynny, mae'r prinder byd-eang o weithwyr iechyd yn golygu nad oes digon o weithwyr proffesiynol wedi'u hyfforddi i helpu i fynd i'r afael â'r bygythiadau hyn, ac mae hyn yn cynnwys nyrsys – mae angen 9 miliwn yn fwy o nyrsys a bydwragedd erbyn 2030.” 

Datblygodd y grŵp bum thema a chytuno arnynt i lywio gwaith ymgyrch Nursing Now yng Nghymru, gyda'r holl ganlyniadau'n arwain at well iechyd i bawb. Y rhain oedd: 

  1. Meithrin cydnerthedd a hyrwyddo llesiant mewn myfyrwyr a chofrestreion 
  2. Paratoi myfyrwyr a chefnogi nyrsys a bydwragedd i gydnabod eu rôl a'u cyfrifoldeb wrth gyfrannu at atal, gwella canlyniadau iechyd i unigolion a'r boblogaeth 
  3. Mynd ati'n weithredol i annog a chynyddu amrywiaeth mewn nyrsio a bydwreigiaeth i ddylanwadu'n gadarnhaol ar gynhwysiant grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan hyrwyddo datblygiadau cymdeithasol ac economaidd 
  4. Cryfhau a meithrin arweinyddiaeth a dylanwadu ar allu ar bob lefel 
  5. Cynyddu a gwella lledaenu arfer effeithiol ac arloesol mewn nyrsio er mwyn ysgogi cysondeb o ran mabwysiadu ar draws y system. 

Un enghraifft o sut y mae hyn wedi gweithio'n ymarferol yw cynyddu nifer y nyrsys Arbenigol Anabledd dysgu yng Nghymru. Drwy gydweithio â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru, mae cyfleoedd ar gyfer cyrsiau nyrsio anabledd dysgu wedi cynyddu drwy ddarparu dau dderbyniad i'w rhaglenni, ehangu mynediad, creu cyfleoedd, a lleihau'r pwysau ar leoliadau. Mae hyn wedi galluogi gwelliant o ran nifer y rhai a gafodd eu derbyn ar gyrsiau nyrsio anabledd o 25 y cant ac 17 y cant yn y drefn honno. 

Ychwanegodd Rhiannon: “Nid yn unig y mae angen mwy o nyrsys a bydwragedd arnom, mae angen i ni ddatblygu mathau newydd ac arloesol o wasanaethau. Bydd dyfodol gofal iechyd yn canolbwyntio mwy ar y gymuned a'r cartref, yn fwy cyfannol ac yn canolbwyntio mwy ar bobl, gyda mwy o ffocws ar atal a gwneud gwell defnydd o dechnoleg. Mae hyn yn golygu bod gan nyrsys rôl hyd yn oed yn fwy i'w chwarae yng ngofal iechyd yfory. Fodd bynnag, bydd gwneud y mwyaf o gyfraniadau nyrsys yn ei gwneud yn ofynnol eu bod yn cael eu defnyddio'n briodol, eu gwerthfawrogi a'u cynnwys wrth lunio polisïau a gwneud penderfyniadau. 

“Buddsoddi i wella amodau gwaith, hyfforddiant a sgiliau arweinyddiaeth nyrsys yn gallu cyflawni effaith driphlyg gwella iechyd, yn ogystal â chydraddoldeb rhywiol a chryfhau economïau lleol. Mae sicrhau potensial mwyaf posibl nyrsys a bydwragedd yn hanfodol i gyflawni'r nod o gwmpas iechyd cyffredinol, gan sicrhau bod gan bawb, ym mhobman, fynediad at wasanaethau gofal iechyd o ansawdd. 

“Iechyd yw ein hased pwysicaf ac mae angen i ni ofalu amdano gyda a thrwy ein cymunedau.” 

Meddai Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka: “Fel Prif Swyddog Nyrsio newydd Cymru, hoffwn ddiolch i bawb a fu'n ymwneud â'r gwaith o lunio'r adroddiad pwysig hwn. Mae wir yn tynnu sylw at rôl hanfodol ein nyrsys a'n bydwragedd yn ein cymdeithas ac yn ein cymunedau a'r hyn y gallant ei gyflawni wrth ysgogi a rhannu arfer gorau a thrawsnewid gwasanaethau er budd cleifion yng Nghymru. 

“Nyrsys a bydwragedd yw calon ein system iechyd, ac mae'r cyhoeddiad hwn yn dathlu eu cyflawniadau yn wyneb adfyd. Mae hefyd yn ysbrydoli gweledigaeth o'r newydd ar gyfer addysg ac ymchwil nyrsio, arweinyddiaeth a chynhwysiant, a chreu'r amodau i gefnogi llesiant nyrsys a bydwragedd. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar hyn gyda phartneriaid yn y dyfodol.” 

Mae Nursing Now Wales/Cymru yn cynnwys cynrychiolaeth o sefydliadau GIG Cymru, arweinwyr nyrsio o Brifysgolion Cymru, Coleg Brenhinol y Nyrsys, Coleg Brenhinol y Bydwragedd a chynrychiolwyr y trydydd sector.